Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/87

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gyda golwg ar blant eraill y diwygiad, y mae'n achos tristwch i mi bod llawer ohonynt wedi ymgaregu yn llythyren yr athrawiaeth ac fel "pabau bach "

yn condemnio'r neb na dderbynio'r ffurf o gyfundrefn ddynol a goleddant hwy. Ymddengys'eu bod yn yr un cyflwr hunan—dybus â Theomemphus pan oedd hwnnw yn " barnu plant ei fam, eu barnu weithiau'n union, a'u barnu weithiau'n gam." Nid yw ffrwyth da yn braw o bren da iddynt hwy, gan ei bod o hyd yn bosibl i fwrw allan gythreuliaid drwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid!

(c)

Er yn analluog i wneud defnydd pregethwrol o'm myfyrdodau a'm canfyddiadau ar y lefel uchaf—fel yr awgrymwyd yn nechrau'r bennod—yr wyf wedi dal ymlaen i bregethu'r pethau hanfodol yn ôl y goleuni a gefais yn y gred nad oes un gwirionedd a heuir mewn ffydd yn peidio â dwyn ffrwyth, er na wêl yr heuwr mohono. Felly y bu McCheyne yn hau had Gair yn ei eglwys, a W. C. Burns yn dod yno i fedi'r ffrwyth. A phe cawn ail-gychwyn fy ngweinidogaeth yn awr, gyda'm profiad presennol, byddai'n rhaid i mi bwysleisio'r un gwirioneddau ag a wneuthum o'r diwygiad ymlaen, megis mai perthynas bersonol â Christ, ac nid cydsyniad deallol â'r athrawiaeth amdano, sydd yn oll-bwysig; bod pob gwybod i fod yn is-wasanaethgar i adnabod Duw; bod emosiwn yn was da ond yn feistr drwg, a'r cyffelyb; a hynny am mai yr un yw y diffygion crefyddol—gyda gwahaniaeth arwynebol—o oes i oes. Un o'r eilunod mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd yw " y wybodaeth ddiweddaraf"; o ran hynny, y mae tuedd mewn