Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mudiad Grŵp Rhydychen, ac ysgol Karl Barth, ac yr wyf wedi derbyn budd a symbyliad drwy hynny, ond cymaint yn aml drwy orfod beirniadu neu wrthod rhai golygiadau â thrwy dderbyn a chymhathu eraill. Ond arferiad cam—arweiniol yn gystal â chamarweiniedig yw hwnnw o osod label ysgol neu fudiad ar y neb a ddaeth i ryw fesur dan eu dylanwad. Ymddengys bod rhai, er enghraifft, yn dweud fy mod i'n perthyn i " ysgol Keswick." Teirgwaith y bûm i yn Keswick o gwbl, a phob tro yn un o gwmni y tybiai cyfaill caredig y gallwn fod o ryw help ynddo: Bûm yn siarad yng nghynhadledd Llandrindod am rai blynyddoedd, ond ni bûm erioed yn gallu llyncu popeth na derbyn pob pwyslais a glywir ar lwyfan Keswick. Yn arbennig, y mae'r ddysgeidiaeth yn rhy cut—and—dried i fywyd cynyddol sydd mewn cyswllt â'r byd ysbrydol. Dichon fod hynny'n anghenraid i "blant " ac yn help dros amser, gan mai math o waith trelis (trelliswork), os coeliwn Harnack, yw erthyglau cred i helpu cynnal planhigyn y bywyd dwyfol. Eto, yr wyf yn hollol gydfynd â'r pwyslais a roddir yno ar ymgysegriad, a'r mottoes, "All one in Christ Jesus a Holiness by Faith "; ac yn sicr y mae awyrgylch Keswick yn fath o awyr y môr" i'r enaid, ac yn werth i bob credadun a gais adnewyddiad fynd i'w hanadlu am wythnos; tra y mae " iechydwriaeth wyneb " y rhai a ddaw yno yn iechyd i'w gweld. Yn yr un modd y mae cyfarfodydd Grŵp Rhydychen a'u hawyrgylch fwy bracing ond llai gwlithog, yn werth mynd iddynt, a dylent fod yn foddion disgyblaeth a gras i bob un diragfarn.

Y mae yr enaid a gyfyd i symlrwydd y berthynas â Duw o'i adnabod yn gadael" ysgolion " a'u gwahân-