Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR

NID yn aml y bydd hynafgwr a fyddo'n dipyn o lenor heb gais oddi wrth rywrai o genhedlaeth ddiweddarach am benodau o'i atgofion. Ni ddihengais innau: crefai un cyfaill hoff am wybod hanes beirdd dyffryn Teifi pan oeddwn yn llanc, tra teimlai un arall, gŵr gradd, fwy o ddiddordeb yn fy ffrindiau ac athrawon coleg. Ni pheidiais â rhoddi ystyriaeth i'r ceisiadau hyn, ond ni theimlwn mwyach ddigon o ddiddordeb ynddynt, ac ni phrisiwn eu gwerth yn ddigon uchel, i eistedd i lawr i ysgrifennu fy atgofion amdanynt. Eithr cododd i fyny i'm sylw, fel y Wyddfa uwchlaw'r bryniau, fy mhrofiad crefyddol mewn cyfnod diweddarach fel peth y gallai disgrifiad ohono fod o fudd i genhedlaeth o bregethwyr heb brofiad pendant, ond a dreuliant eu hyni i "ddyrnu gwellt" hen athrawiaethau neu haniaethau newydd difywyd. Gwyddwn i rywbeth o leiaf, am brofiad diriaethol o'r bywyd ysbrydol, a'm bwriad cyntaf oedd rhoddi fy hanes fel y'i ceir o bennod vi. ymlaen. Eithr wrth aros uwch ei ben a cheisio dod o hyd i'w ddechrau, gwelais na allwn ei wahanu oddi wrth fy mywyd blaenorol. Y pryd hwn y gwawriodd arnaf y gellid disgrifio cyfnodau fy mywyd fel ffurfiau ar ymchwil am y Prydferth, y Gwir, a'r Sanctaidd. Yn wir, er i mi athronyddu llawer ar ystyr bywyd, nid oeddwn wedi taflu golwg ar fy mywyd fy hun yn ei gyfanrwydd a cheisio'i gyfundrefnu. Fel hyn aeth y chwe phennod a fwriadwn yn ddeuddeg: gallasent fynd yn llawer mwy ped ymhelaethaswn yma a thraw.