Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/90

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaethau deallol a labels y cnawd ar ôl. Ymleddir gornestau Ffyndamentaliaeth a Moderniaeth ar wastad is, ac y mae Ef uwchlaw eu mŵg. Yr wyf wedi darllen cryn lawer o waith yr uwch-feirniaid, heb fod hynny'n ymyrryd â'm gwerthfawrogiad o'r gwirionedd. Diau fod agwedd hanesyddol i'r datguddiad dwyfol, ac y mae o fewn cylch ymchwil y deall i geisio olrhain ei amodau; eto, ni ellais i dderbyn casgliadau uwch—feirniaid onid fel rhagdybiau (hypotheses), am y gwyddwn fod yr holl adeiladwaith yn seiliedig ar athroniaeth Hegel. Am y rheswm hwnnw ni bu'r "wybodaeth ddiweddaraf" yn fwgan i'm ffydd, a chefais beth difyrrwch rai prydiau wrth weld y wybodaeth ddiweddaraf" yn gorfod ildio'r maes i bodaeth ddiweddarach." Nid oes drwg yn hyn, daw'r drwg i mewn yng ngwaith rhai dibrofiad "heb fod y gwirionedd ganddynt," yn tybied mai dysg yw duwioldeb yn pregethu damcaniaethau dynol yn lle gwirionedd.

Wrth sôn am bregethu'r gwirionedd, yr wyf am osod y prif bwyslais ar yr ail air gwirionedd, nid am nad yw pregethu o bwys, ond am fod y bregeth a'r pregethu wedi mynd yn amcan yn hytrach nag yn foddion, a phobl yn dod ynghŷd—pan ddeuant—i farnu'r bregeth yn hytrach nag i gael eu barnu gan y gwirionedd. Teimlais hyn yn fawr beth amser yn ôl drwy gael fy arwain i ddarllen cofiant Moody a God in the Slums (Redwood) tua'r un pryd â chofiannau Evan Phillips a Puleston Jones; yn y ddau flaenaf yr oedd y sôn bron i gyd am ddwyn rhai at Grist, ac yn y ddau olaf nemor sôn am hynny, ond llawer am ddawn bregethwrol a chyfarfodydd hwyliog. 'Rwy'n cofio F. B. Meyer unwaith yn cyfeirio at ei ail-eni pregeth-