XI
Ni fyddai hanes fy mhererindod yn ei brif nodweddion yn llawn heb ryw gyfeiriad at ddisgyblaeth afiechyd mewn blynyddoedd diweddar ynddo. Rhwng 1904 a 1924 yr oeddwn yn mwynhau bywyd, ac yn byw hyd yr eithaf o ran meddwl ac ysbryd, yn llosgi'n angerddol rai prydiau, a phan yn llosgi allan yn cael fy ail-gynnau wedyn. Ond nid oedd fy iechyd yn berffaith o lawer. Dylaswn fod wedi gwrando ar rybuddion diffyg cwsg, cur yn y pen, a'r cyffelyb, neu wrando i well pwrpas, canys gwrandawn arnynt i'r graddau o geisio gwaredigaeth oddi wrth eu poen heb ystyried eu bod yn gondemniad ar ormod llafur. Nid wyf yn cofio i mi erioed ddychmygu bod gormodedd yn bosibl gyda'r gwaith o bregethu'r Efengyl—" yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf" —nes i mi orfod peidio yn 1924. Gyda phregethu deirgwaith y Sul yng nghapel y Saeson yn Briton Ferry (lle y gweinidogaethai'r Parch. Gwyn Thomas), yr oeddwn i roddi anerchiad ar Syr Henry Jones i'r bobl ifainc nos Lun. Bwriadwn siarad am tuag awr, ond oherwydd ceisio esbonio egwyddorion delfrydiaeth i rai anghyfarwydd ag athroniaeth, siaredais—heb lawer o "ryddid "—am yn agos i ddwy awr. Ar ôl cwsg anesmwyth, codais drannoeth i fynd yn fy mlaen i'r Porth, lle yr arferwn fynd pan yn yr ardal i helpu'r Parch. R. B. Jones am ddeuddydd gyda'i ysgol. Euthum i'r trên yn ddidrafferth, ond pan ymdrechais ddod allan ohono yn y Porth