Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/94

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Nheyrnas Nefoedd i bobl fyfiol (egotistic), canys maentumid mai rhai felly yw artists wrth natur, ac y rhaid iddynt barhau felly. Nid oeddwn i, yn sicr, yn maentumio hyn, ond yr oedd yn elfen yn y diddordeb a deimlwn yn hanes Parry. Cymerais lawer mwy o drafferth gyda'r cofiant na chydag un Emlyn, a bûm yn fwy gofalus gyda ffeithiau ei fywyd a'i weithiau. Eithr blotiwyd allan wir nodweddion y llyfr gan fŵg ysgrif Mr. Cyril Jenkins, a meddyliodd adolygwyr y De mai ymosodiad ar Dr. Parry ydoedd, ac nid amddiffyn rhag y cyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn. 'Rwy'n cofio gweld Arglwydd Kelvin yn llosgi stwff yn y dosbarth a newidiai'r awyrgylch ac a barai ei fod ef ei hun, ei wyneb a'i ddwylo, yn troi i liw copr: rhywbeth tebyg oedd effaith yr ysgrif uchod ar y cofiant, neu yn hytrach ar lygaid y rhai a'i darllenai drwy ei mwg. Cyhoeddodd Mr. Jenkins ei ysgrif yn un o bapurau Saesneg y De pan oedd y cofiant ar fin ymddangos, a bu'n foddion i ffurfio awyrgylch o ragfarn o'i gylch; ac ni ffurfiodd fy meirniaid deheuol eu barn ar sail darllen y llyfr ond ym mwg yr ysgrif honno. Yr oedd adolygwyr y Gogledd, Anthropos, Pedrog, a Llew Owain, yn fwy golau a theg, ac yn dangos eu bod wedi gweld mai nid yr un yw safbwynt y cofiant a safbwynt yr ysgrif. Cafodd hon ymddangos o gwbl am y tybiwn y dylid cael barn cerddor modern ar Parry. Ymddangosai'n eithafol i mi ond nid yn fwy felly na beirniadaethau ein beirdd diweddar ar feirdd y ganrif ddiwethaf, o Dewi Wyn i lawr at Ceiriog ac Islwyn. Barnai rhai o'n prif gerddorion i mi fod yn llwyddiannus gyda'r ddau gofiant, a gofynasant i mi fynd ymlaen i ysgrifennu cofiant Gwilym Gwent. Gomeddais wneud, ac yn fy ngohebiaeth â