Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/95

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dr. Prothero awgrymais mai ef, fel un cyfarwydd â Chymru ac America, oedd y dyn i wneud, a'i bod yn rhaid i mi'n awr fynd yn ôl i'm llwybr fy hun. Nid oedd cofiant Adams yn mynd â mi ymhell o'm llwybr, o leiaf ni allwn wrthod cais Mrs. Adams ataf i ymgymryd â'r gwaith. Addewais wneud, ond cael help Mr. Pari Huws. Ni ŵyr y darllenydd cyffredin yr hyn a olygai gwneud cofiant i ddyn fel Adams—ni wyddwn fy hunan nes mynd at y gorchwyl. Nid oedd ei ysgrifennu ond tua thrydedd ran y gwaith; oblegid cyn dechrau ar hynny yr oedd yn angenrheidiol mynd drwy lond cist fawr o lawysgrifau, pregethau, pryddestau, llythyrau, etc., yn gystal ag ail-ddarllen ei lyfrau, ac wedyn ddethol a threfnu'r defnyddiau perthynasol a rhoddi iddynt eu lle yng nghyfanwaith y cofiant. Arnaf i y syrthiodd y ddau beth olaf hyn, a disgwyliwn gael mwy o help Mr. Huws gyda'r gwaith o ysgrifennu, yn neilltuol dibynnwn arno ef i drafod safle farddol Adams. Addawodd wneud, ond diau iddo fethu gan ei fod yn awr mewn gwth o oedran. Y canlyniad fu i mi orfod ysgrifennu pennod ar ruthr i orffen y llyfr y peth olaf cyn mynd i Briton Ferry, a "thorri i lawr."

Dywedai fy meddyg mai bendith dan gochl oedd y methiant hwn, rhybudd mwy pwysleisiol na'r rhai a gawswn eisoes mewn diffyg cwsg, etc., o berygl gorlafur, yn neilltuol yn awr a mi yn henwr, ac analluog i wneud cymaint o waith â chynt yn ddigosb. Nid wyf yn gallu galw i gof a ddaeth geiriau'r Salmydd i'm cof ar y pryd, ond daethant lawer gwaith wedyn: "Cyfarwyddaf di a dysgaf di yn y ffordd yr elych: â'm llygad arnat y'th gynghoraf. Na fydd fel march neu ful heb ddeall, yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa