ac â ffrwyn. Yn fy ystad orweddog yn ystod misoedd gorffwystra cefais ddigon o gyfleusterau i ymgydnabod â chyfarwyddyd "llygad" fy Arweinydd, a cheisio ei "ddeall" a datblygu'r lledneisrwydd canfyddiad sydd yn angenrheidiol i hynny. Diau mai nid cosb ond anghenraid gorffwystra llawn oedd fy amddifadu o ysbrydoliaeth yr awr weddi foreol: o leiaf, nid oedd yr ymroddiad a'r canolbwyntiad a ofynnai yn fy ngallu i'w roddi am beth amser. Yn raddol, drwy ymgadw oddi wrth bob ymdrech corff a meddwl, a rhoddi sylw manwl i fwyd a diod, cefais y blood pressure i lawr yn agos i'w le, a deuthum yn alluog i bregethu fel cynt, ond yn fwy gofalus. Eto, y mae'n amlwg nad oedd fy addysg yn ysgol cystudd wedi ei gorffen, oblegid ar ben tua deng mlynedd cefais un bore dydd Llun na allwn gerdded llawer o gamau heb ddioddef y boen fwyaf arteithiol ar draws fy mrest, o ysgwydd i ysgwydd. Yr angina pectoris ydoedd, meddai'r meddyg, y darllenaswn amdani fel rhagredegydd angau. Gan fy mod wedi ymgadw y tu mewn i derfynau cymedroldeb ym mhob ystyr yn ôl y cyfarwyddyd a gefais, yr oedd yr ymosodiad newydd a dieithr hwn yn ddirgelwch hollol hyd oni esboniwyd i mi nad oedd cael y blood pressure i lawr yn ystwytho'r arwythi (arteries), a bod gorlif emosiwn, er iddo fod yn hollol ddiymdrech, yn peri i fwy o waed nag arfer ruthro drwy arwythi'r galon a'u dirdroi (strain), a chynhyrchu poen yr angina. Eto, "bendith dan gochl" oedd hyn eilwaith, meddai'r meddyg, gan fod y boen yn fy rhwystro i geisio gwasanaeth oddi wrth galon wan oedd y tu hwnt i'w gallu i'w roddi.