Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/97

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yng nghwrs y deng mlynedd ar hugain blaenorol yr oeddwn wedi darllen cryn lawer ar wellhad drwy ffydd, fel mater o ddiddordeb damcaniaethol, ond yn awr, aeth yn fater o ddiddordeb ymarferol agos. Yr oeddwn yn gyfarwydd â llyfr A. J. Gordon ar Faith Healing, ac â hanes Dorothea Trudel a'r cyffelyb; ond yn awr galwodd y Parch. Rees Howells (y Coleg Beibl, Abertawe) fy sylw at gofiant Andrew Murray, yn fwyaf neilltuol at y bennod ar "Wellhad drwy ffydd" sydd ynddo—pennod sydd yn seiliedig ar brofiad personol gwrthrych y cofiant. Gan i'w ddarllen fod yn foddion gras a chyfarwyddyd i mi ar fy nhaith bererin, rhoddaf rai o'i phrif bwyntiau yn y fan hon. Dylwn esbonio i'r darllenydd fod Dr. Murray wedi colli ei lais a methu ei gael yn ôl er ymgynghori â meddygon De Affrig, a dyfod i Lundain ar ei ffordd i'r Swistir at Pastor Stockmayer. Yn Llundain, fodd bynnag, daeth i gyffyrddiad â Dr. Boardman, ac aeth i mewn i Beth Shan, sefydliad enwog lle y gwellheid rhai drwy ffydd a gweddi, a chael ei lais yn ôl ar ben tair wythnos. Wele rai o'i brif ddatganiadau: " Y mae Duw rai prydiau—er nad bob amser —yn ceryddu Ei blant ag afiechyd oherwydd rhyw bechod neilltuol, megis diffyg mewn ymgysegriad a glynu wrth ein hewyllys ein hunain; hyder yn ein nerth ein hunain ynglŷn â gwaith yr Arglwydd; ymadawiad â'n cariad cyntaf, ac anwyldeb rhodio gyda Duw; neu absenoldeb yr addfwynder a gais ddilyn arweiniad yr Ysbryd Glân yn unig. Y mae'n anodd mynegi mewn geiriau yr olwg a gawn ambell waith ar ledneisrwydd a sancteiddrwydd anhraethadwy yr ymgysegriad y'n gelwir iddo pan ofynnwn i Dduw am wellhad drwy ffydd. Llenwir ein henaid