Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/98

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ag ofn a pharch santaidd pan ofynnwn iddo gyfrannu i'n corff ieuengrwydd tragwyddol Ei fywyd nefol, a phan fynegwn ein parodrwydd i dderbyn yr Ysbryd Glân er mwyn llanw y corff a breswylir ganddo ag iechyd, modd y gallwn fyw bob dydd mewn dibyniaeth hollol ar ein Harglwydd am ei ffyniant. Gwelwn mor llwyr y rhaid i gyflwyniad y corff i'r Arglwydd fod, i lawr hyd yn oed i'r manylion lleiaf, ac fel y mae Ef, drwy roddi a chadw iechyd drwy ffydd, mewn gwirionedd yn dwyn oddi amgylch yr undeb agosaf posibl ag Ef Ei Hun."

Yna rhydd ei brofiad pan ddaeth i Beth Shan: "Pan ddeuthum i'r Cartref, yr oedd fy mryd ar wellhad, ond cefais allan yn fuan mai prif amcan Duw oedd datblygu ffydd, a bod ffydd eto yn Ei olwg Ef o werth nid yn unig fel amod y fendith o wellhad, ond yn bennaf fel y ffordd i gymundeb llawnach ag Ef Ei Hun a dibyniaeth lwyrach ar Ei allu."

Ymhlith y cyfarwyddiadau a rydd i eraill, fe ddywaid ein bod i gredu mai ewyllys Duw yw ein gwella; i gymryd ein harwain gan Ei Air; i ganiatau i'w Ysbryd chwilio ein calonnau i'n cael i weld ac yna i gyffesu ein pechodau; i dderbyn drwy act o ffydd yr Arglwydd Iesu fel ein meddyg; i weithredu (exercise) ffydd; i beidio â synnu os profir ein ffydd; bod yn dystion yn ôl llaw i'r sawl a ddwg yr Arglwydd atom.

Daeth cyfle i mi wneud praw o un o'r cyfarwyddiadau hyn yn fuan. Yng nghwrdd dathlu canmlwyddiant Bryngwenith, trefnwyd i mi bregethu'r noson gyntaf. Nid oeddwn yn flaenorol wedi dioddef gan yr angina ond ar ôl ychydig gerdded; y nos hon, fodd bynnag, ymosododd arnaf pan oedd Mr. Evans Jones