Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/99

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn pregethu, ac âi'n waeth-waeth fel y tynnai ef at y terfyn. Dan amgylchiadau arferol buaswn yn gofyn i'r gweinidog (Mr. Stanley Jenkins) i derfynu'r oedfa gan fy mod yn rhy dost i bregethu, ond fflachiodd un o gyfarwyddiadau Dr. Murray, "Don't be surprised if your faith is tested," i'm meddwl.

"O'r gorau,' meddwn, "mi af i'r pulpud 'taswn i'n llewygu," a chodais i fynd, a'r boen yn mynd yn waeth gyda'r ymdrech i ddringo, eithr gyda'm bod yn gosod fy nhroed ar y ris uchaf diflannodd yn llwyr, ac ni ddaeth yn ôl y nos honno o gwbl. Pan adroddais yr hanes wrth feddyg enwog, y sylw a wnaeth oedd, "Y mae'r ysbryd yn chwarae triciau hynod â'r corff."

Ond er i'r boen fynd y pryd hwnnw, deuai yn ôl gyda'r ymdrech i gerdded. Yn wyneb hyn, yr oedd geiriau pellach Dr. Murray ar ddull y gwellhad sydyn neu raddol yn dra chysurlon. Yr oedd ef, pan ddaeth i Lundain, am gael gwellhad uniongyrchol, ac yn ymresymu â Dr. Boardman y gwnâi hynny ddyfnach argraff ar ei bobl yn Ne Affrig, a dwyn mwy o ogoniant i Dduw, a chael yr ateb call, "Gedwch chwi rhwng Duw â'i ogoniant, gall Ef edrych ar ôl hwnnw'n well na chwi a minnau—ein busnes ni yw ufuddhau i'r amodau gosodedig." Ac ychwanega fod Stockmayer wedi bod yn dioddef gan ei ben am dros ddwy flynedd, a bod yn alluog i wneud ei waith drwy help ffydd yn unig; y caffai ei arwain fel plentyn mewn llinynnau arwain, ond na chymerai y byd am yr hyn a ddysgodd yn ystod y ddwy flynedd hyn. Ni ddygai gwellhad uniongyrchol gymaint bendith iddo. Fe'i cyfrifai yn fraint oruchel i Dduw ei gymryd mewn llaw mor llwyr i'w gadw mewn