O'r fath ddychryn ga'dd y dynion
Ar waith y gwynt yn dod mor greulon,
A d'wedodd rhyw rai, Y damp, rwy'n coelio,
Yn y gwaith sydd wedi tanio.
Ar hyn y dwr ddaeth er dychryndod,
Ac nid oedd golau yn y gwaelod;
O ewyllys Duw a chymorth dynion,
Dau naw gaed yn fyw o'r eigion.
O dyma olwg tra dychrynllyd,
Ymdrech pob un am ei fywyd,
Fe waeddai un a'i lef yn danbaid,
O Arglwydd Iesu, derbyn f' enaid.
Ca'dd an ei fywyd, gwir yw'r geiriau,
Trwy ragluniaeth Duw'r gorucha',
Hyd ochr y pwll yr oedd yn dringo
Nes i'r bwced ddyfod ato.
Ar lan y pwll 'roedd lle galarus,
Gan ryw nifer fawr, mae'n hysbys;
Rhai am eu gwyr oedd wedi d'rysu,
Ac eraill am eu plant anwylgu.
Rhai am eu brodyr oedd yn gwaeddi,
A'u calon dirion oedd ar dori;
Ac ambell un ar ol ei chariad
Oedd yn waeledd yno i weled.
Fe geir saith o wragedd gweddwon,
A rhai'n bob dydd yn brudd eu calon;
Ac wyth ar hugain sydd i'w gweled
Rhwng y rhai'n o blant ymddifaid.
Tudalen:Galargan Damwain Glo Landshiping Chwefror 14 18444.djvu/3
Prawfddarllenwyd y dudalen hon