Tudalen:Geiriadur Cymraeg a Saesneg Byr, Cyfres y Fil.pdf/5

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd

Amcan y Geiriadur byr hwn yw rhoddi ychydig gymorth i efrydwyr Cymraeg y canol oesoedd. Denwyd fi at y gwaith, oherwydd nad oes Eiriadur hawdd ei gael i lenyddiaeth Cymreig y cyfnod rhwng Gruffydd ab Cynan a Beibl 1588.

Fy amcan cyntaf oedd cywiro a thalfyrru cyfieithiad Thomas Jones o Dictionarium Britannico-Latinum Dr. Davies. Y Geiriadur Cymreig a Lladin a Lladin a Chymraeg hwn yw'r goreu eto; ond y mae yn anghyflawn, ac nid yw yn hawdd i'w gael. Ysgrifennodd y Dr. Davies ei ragymadrodd i'w Eiriadur y dydd olaf o Fai, 1632. Cyhoeddodd Thomas Jones ei gyfieithiad ohono yn 1688.

Drwy annog yr Athraw J. Morris Jones, penderfynais wneyd ychwaneg na chywiro a chrynhoi; gwnes y Geiriadur mor gyflawn ag y gallwn drwy fy narllen fy hun, a chymorth Geiriaduron diweddarach. Defnyddiais, yn enwedig, Archæologia Edward Lluyd, 1707; Geiriadur Dr. W. Owen Pughe, 1803, rhyfeddod o wybodaeth a llafur, er ei ddamcaniaethau ofer a'i ddychmygion gwyllt; a Geiriadur anghyflawn fy hen athraw D. Silvan Evans, gyda'r hwn y bu farw yn 1903 gymaint o gof o bethau Cymreig.