o'u meddianau, a'u carcharu yn y modd mwyaf barbaraidd yn hytrach na rhoddi i fyny bregethu Crist yn geidwad i'r colledig,—y mae'r pethau hyn yn wir deilwng o'u cadw mewn coffadwriaeth. Y mae hefyd yn beth hyfryd i gael ychydig o hanes y ser boreuol a adlewyrchasant oddiwrth Haul y Cyfiawnder i ymlid cysgodau y nos a dychrynu creaduriaid aflan o'r wlad. Pe na buasai i ryw rai fod mor ffyddlawn a chadw coffadwriaeth am yr ardderchog lu o ferthyron a ddiangasant adref yn orfoleddus trwy ganol fflamiau tanllyd; ac am Calfin, Wickliffe, a Luther, yn nghyd a miloedd lawer o dystion ffyddlon ereill dros Dduw, ni fuasem ni yn gwybod fod y fath wyr enwog wedi bod erioed yn y byd; a chan fod hanesiaeth yn mhob oes a gwlad mor fuddiol ac adeiladol, a raid i'r Cymry gael eu cau mewn tywyllwch ao anwybodaeth am wroniad eu cenedl, ac am y pethau rhyfedd a wnaeth yr Arglwydd yn eu mysg mewn gwahanol oesoedd. Gyda golwg ar haniad a hynafiaeth y genedl ac ystyr yr enw Cymry, peth hawdd fyddai profi mewn modd anwadadwy fod cenedl y Cymry wedi hanu oddiwrth Gomer, mab hynaf Japheth, cyntaf—anedig Noa. Gellir profi hyn yn y modd cadarnaf trwy dystiolaethau lluoedd o enwogion y cyn—oesoedd, megys Eustalius, Isidore, Tonaras, Josephus, Ptolemy, Strabo, Pliny, Dionysius, Mela, Theodoret, Pezron, Bullet, Bochart, Kaleigh, a chan luoedd o hynafyddion diweddarach. Am hyny, gallwn sicrhau yn orfoleddus yn ngeiriau awduron dysgedig yr "Universal History," fod y Cymry o ran ei hynafiaeth yn rhagori ar holl genedlaethau y ddaear. Er fod rhai o'r doetion paganaidd yn rhoddi y flaenoriaeth i'r Aifftiaid a'r Phrygiaid, ac ereill ar y dybiaeth gyfeiliornus a groch—haerant mai nid Gomer ydoedd cynfab Japheth. Eto, yn ol y tystiolaethau mwyaf cadarn ac eglur, y Cymry ydynt iawn etifeddion coron anrhydeddus hynaf— iaeth; a phe buasai breniniaeth ac archoffeiriadaeth y byd wedi cael eu trosglwyddo trwy ddeddf dragywyddol i gyntaf—anedigion Noa, a phe buasai llinach ei etifeddion heb ei thori hyd yn awr, CYMRO fuasai heddyw yn eistedd ar deyrn—gadair y byd, ac yn ysgwyd ei deyrnwialen dros wyneb yr holl ddaear i lywio ei thrigolion gyda rhwysg cyffredinol; a CHYMRO hefyd fuasai yn gweini yn y cysegr santeiddiolaf yn ei lys—wisgoedd archoffeiriadol, a'r meitr coronawg ar ei ben, a'r Urim Sanctaidd yn dysgleirio ar ei ddwyfron; a da yw genym allu ychwanegu mai Cymro oedd y cyntaf erioed a edrychodd ar fryniau gwynion Deheudir Prydain, a thraed Cymro oedd y cyntaf erioed a sangodd ei daear hyfrydlawn. Am eu dyfodiad i'r Ynys, anhawdd yn bresenol fyddai i neb allu nodi allan gyda manyldra a chywirdeb amser poblogiad cyntaf yr Ynys hon; ond penderfynir gan haneswyr yn gyffredinol iddi gael ei phoblogi gan DRI LLWYTH o'r Cymry—i'r cyntaf ddyfod drosodd o ororau Thrasia o gylch 3,000 o flynyddoedd yn ol; i'r ail, sef y Lloegrwys, ddyfod yn fuan wedi hyny, dan lywyddiaeth Prydain ab Aedd Mawr; ac i'r rhai hyn gael eu canlyn gan y trydydd, sef y Brythoniaid, o Llydaw. Gellir casglu gyda golwg ar ddull eu sefydliad yn yr Ynys, oddiwrth amryw o'r Trioedd a chrybwylliadau hanesyddol ereill, iddynt sefydlu mewn modd tawel ac heddychlawn, ac i'r tir gael ei ranu rhyngddynt mewn cyfiawnder, ac heb dywallt gwaed, naill ai trwy gydsyniad, yn ol trefn Abraham a Lot, neu trwy goelbren, yn ol trefn Joshua a blaenoriaid Israel. Iaith y genedl yn ddiameu ydoedd yr hen Omeraeg, yr hon, yn ol tystiolaethau y dynion enwocaf a ymddangosasant erioed ar chwareufwrdd dysgeidiaeth, ydoedd un o ieithoedd Babel, os nid un o brif gangenau iaith Eden—y iaith a arferid unwaith o godiad y Danube hyd Benrhyn Finisterre a Chyfyngfor Erclwff——y iaith a lefarwyd gan enwogion llawer oes a llawer gwlad, ar y maes, yn y llys, ac wrth yr allor—yr hon sydd eto yn fyw, ac yn cael ei siarad heddyw mor rwydd ac y llefarwyd hi erioed gan feibion a merched Gomer. Profa yr awdwr enwog Pezron tu hwnt i bob dadl fod y Cymry yn llawer henach cenedl na'r Groegiaid, ac mai o'r Gymraeg y tarddodd y Roegaeg agos yn gyflawn. Profa Josephus hefyd, yn ei lythyr at Apion, na fedrai y Groogiaid air ar lyfr yn amser brwydr Caerdroia, rhwng y Cymry a'r Groegiaid. Er cael hanes pellach ar hyn cyfeirir y darllenydd at yr haneswyr a roddwyd, ac at Hughes's Hora Britanica, Davies's Celtic Researches, Encyclopedia Londivensis (Article Britain), Camden's Britain, Universal History (Vol. II. pp. 241—246), Dysgedydd am 1848, tu—dal. 398. Y mae yn ymddangos oddiwrth yr Ysgrythyrau Santaidd i'r amryw lwythau y rhai a ymdaenasant ar hyd y ddaear ar ol y dilaw gymeryd eu henwau oddiwrth eu gwahanol deidiau neu bonau eu cenedloedd. Ar ol enwi meibion Noa, Gen. x. 22, dywedir, "Dyma deuluoedd meibion Noa wrth eu cenedlaethau yn ol eu cenedloedd, ac o'r rhai hyn yr ymranodd y cenedloedd ar y ddaear wedi y diluw."
Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/11
Prawfddarllenwyd y dudalen hon