Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flwyddyn 1835, pryd y cafodd Mr. Morris Edwards ei sefydlu yn fugail ar yr eglwys; a pharhaodd Mr. Arthur i bregethu yn achlysurol yno wedi hyny tra y gallodd. Yr oedd hefyd yn cydlafurio a Mr. James Davies, Pantycelyn, ac yn gweinyddu yr ordinhadau i'r eglwys ieuanc yn Llanarch-cawr, Dyffryn Claerwen, Brycheiniog, hyd galangauaf 1837.

ARTHUR FRENIN, ydoedd fab Meurig ab Tewdrig, tywysog y Prydeiniaid Siluriaidd, yn nechreuad y chweched ganrif, yr hwn mae'n debyg yw yr Uthyr, neu yr Uther, oedd o fri mawr yn yr hen ffug chwedlau; enwad mae'n debygol, o roddwyd iddo o herwydd ei orchestion rhyfeddol yn ei frwydrau a'r Sacsoniaid. Yn mherthynas i'w fam, yr ydys mewn anwybod pwy ydoedd, ac nis gellir ymddibynu ar chwedl Geoffrey o Fynwy, yr hwn a ddywed genhedlu o Feurig Arthur yn anghyfreithlon, yn ei gyfrinachau â thywysoges brydweddol o Gernyw. Dywedir fod ganddo chwaer o'r enw Anna, yr hon a briododd Llew, brawd Urien, penaeth y Prydeiniaid Cumbriaidd; a'r Anna hon ydoedd fam Medrod, yr hwn a luniodd lawer o fradwriaethau yn erbyn ei ewythr Arthur, fel y sylwir rhagllaw. Yn ol a ddywed haneswyr, ganed Arthur yn Tindagel, yn Nghernyw, yr hon wlad a gyfaneddid y pryd hyny gan bobl o'r un cyff, mewn arferiad o'r un iaith, ac yn blaid yn yr un cyngrair er gwrthsefyll gormes y Sacsoniaid. Ac wrth ystyried hyn, nid ydyw yn annhebygol na fyddai Meurig yn cael ei arwain, yn neillduol ar achosion ei hyntiau milwraidd, i gyfaneddu ar brydiau yn y parth hwn o'r wlad. A dywed y Trioedd fod gan Arthur lys yn Nghernyw, a elwid Celliwig; ond pa un ai yr un ydoedd hwn a Tindagel, y mae yn anhawdd ar y pryd hwn ddywedyd. Am ddyddiau ieuengaidd Arthur, a'i ddysgeidiaeth foreuol, nid oes ond ychydig i'w fynegu; ond iddo pan yn ieuanc gael ei ddysgu mewn arferion milwraidd a ellir gasglu oddiwrth natur yr amserau, yn nghyd Ag iddo yn moreuddydd ei oes gael ei ddethol i arglwyddiaethu ar y Prydeiniaid. Ac y mae yn debygol, wrth ystyried cymeriad ei dad Meurig, yr hwn oedd ya dra selog i ledaenu egwyddorion Cristionogaeth yn mhell ac yn agos; a'r hwn hefyd a sefydlodd ysgoldy Llancarfan, yn Neheudir Cymru, nad esgeuluswyd, hyd yr ydoedd alluadwy, argraffu ar feddyliau Arthur bethau pwysig crefydd, yn ol eu hymarferiad yr oes hono. Yn nghylch y flwyddyn 517, galwyd Arthur, trwy gyd-ddewisiad, i lywyddu Prydain, ac i arwain ei byddinoedd yn erbyn galluoedd cynhyddol yr estroniaid Sacsonaidd, un wedd ag y gwnaed mewn amserau boreuach, pan y penodwyd Caswallon a Charadog yn awr galed cyfyngder, i wrthwynebu arfau cedyrn a llwyddianus y Rhufeiniaid. Yn ol hanes rhai, nid oedd Arthur y pryd hyn dros bumtheg mlwydd oed, er yr arferai ei awdurdod fel tywysog cyn hyn dros ei dreftadaeth ei hun yn Neheudir Cymru. Coronwyd ef gyda mawredd a gorwychder mawr gan Dyfrig, archesgob Llandaf, yn Nghaerlleon-ar- Wyag, ger gwydd amryw o dywysogion Prydeinaidd, y rhai a alwyd yn nghyd er cadarnhau etholiad y wladwriaeth. Ac y mae yn naturiol i gasglu oddiwrth ansawdd y wlad pan ddyrchafwyd Arthur i'r deyrngadair, y byddai i'w deyrnasiad gael ei nodi â llawer o ymladdfeydd a thywallt gwaed. Yn Ngogledd Lloegr, yn Nghymru, ac yn Nghernyw, yr ydoedd y Prydeiniaid yn wrol ac yn lluosog iawn; ac aml yr ymruthrent ar eu gelynion, ar mor ddewr yr ymladdent. Y mae Neunius yn ei hanes, pan yn crybwyll gorchestion Arthur, yn cyfrif deuddeg o frwydrau penodol, yn mha rai yr arweiniodd ac y rheolodd efe ei fyddinoedd yn erbyn y Sacsoniaid. Ond y mae yn anhawdd iawn ymddiried i hen hanesyddiaethau, yn neillduol pan brofir eu bod yn cynwys chwedlau celwyddog mewn lluosogrwydd; eto y mae yn gredadwy oddiwrth gyd darawiad hen awduron, fod Arthur wedi ymgydio mewn llawer cad â'r gelyn, yn nghyd a bod ei hyntiau milwraidd yn gyffredinol yn cael eu coroni â llwyddiant. Ond dywedir mai y frwydr benaf a ymladdodd efe oedd hono ar fryn Baddon, yn nghymydogaeth Nânt Baddon (Bath.) Yn ol yr awduron mwyaf credadwy, hon ydoedd y frwydr benigol gyntaf a ymladdwyd gan Arthur â'r Sacsoniaid, yn y flwyddyn 520, dair blynedd wedi ei etholiad, a'r ddeunawfed o'i oed. Y Sacsoniaid a arweinid gan y gwrol Cerdic, ymladdwr dewr a chynefin â rhyfel; ond wedi ymgydio o'r ddwy blaid, Arthur, yn ddiystyr o ofn, a chan watwar arswyd, a dynai ei gleddyf o'r wain, a buan y syrthiai y gelyn yn archolledig gan rym ei ergydion, fel y dywedir iddo a'i law ei hun ddieneidio naw cant a deugain o honynt! Ac wrth weled eu llywydd ieuanc yn effeithio y fath alanasdra, syrthiodd yr un ysbryd ar y milwyr, fel wedi gadael miloedd yn lladdedig ac yn archolledig, bu Cerdic dan yr angenrheidrwydd o encilio, a'r gweddill o'i fyddin gydag ef, gan adael Arthur i gyhwfanu baniar buddugoliaeth ar y bryn, ac i fedi effeithiau yr orfodaeth fawr hon. Nid oedd i'w weled yn ngwersyll y Prydeiniaid ond cwcyllau llawn o flodau; ac ni chlywid ond twrf bloeddiadau y byddinoedd yn dyrchu molawd Arthur, am eu tywys a'u llywyddu i lwyddiant. Wedi y frwydr gwnaeth gyngrair â Cerdic, yr hwn fu dan yr angenrheidrwydd o gydnabod anymddibyniaeth Arthur yn ei arglwyddiaeth o'r ddau tu i'r Hafren. Y mae yn gwbl annichonadwy coffau brwydrau ereill Arthur yn rheolaidd, rhwng brwydr Bryn Baddon a'r un angeuol yn Camlan. Amryw yn ddiau a ymladdwyd â'r Sacsoniaid, yn gystal ag ereill a achoswyd o herwydd rhwygiadau gwladol y Prydeiniaid eu hunain. Nodir dwy gan Llywarch Hen, y bardd, ei gydoeswr; un yn Llongborth, a'r llall ar y Llawen. Am frwydr Llongborth, (yr un, medd rhai, a Phortsmouth,) yr ydoedd yn waedlyd uwchlaw darluniad, yn ol yr ymddengys oddiwrth gyfansoddiad barddonawl Llywarch Hen; ac er fod ymadroddion mawreddog barddoniaeth yn myned dros y terfynau, eto hawdd canfod natur pethau yn narluniadau beirdd. A rhaid fod y frwydr hon yn echrydus, amgen ni ddywedasai Llywarch fod y milwyr yn ymgydio hyd eu gliniau