bu farw mewn cyfyngder mawr, yn y flwyddyn 1659. (Wood's Ath. Oxon.)
BEAUFORT, EDWARD SOMERSET, ail ardalydd Worcester; ydoedd fab hynaf Henry Somerset, pumed iarll Beaufort, a'r ardalydd cyntaf. Efe a briododd Elizabeth, merch i Syr William Dormer, N.G., ac yn ail, Margaret, merch i iarll Thomond. Ymlynodd y boneddig hwn, fel ei dad, wrth y deyrniaeth yn selog, yn amser y rhyfel gwladol; ac efe a benodwyd gan Siarl I. yn arglwydd-raglaw Gogledd Cymru, ac a gyferchid gan ei fawrhydi fel iarll Morganwg, hyd nes y llwyddodd i gael ei urddau etifeddol. Cyhuddid Siarl frenin o anfon yr arglwydd hwn (crefydd yr hwn, medd arglwydd Clarendon, oedd o'r fath hono o Babyddiaeth ag oedd gasaf gan y bobl, gan ei bod y fwyaf Jesuitaidd) i gytuno a'r Pabyddion Gwyddelig a gwrthryfelgar, a dwyn corff mawr o honynt drosodd i wasanaeth y brenin. A chwynai y bobl, a gwadai y brenin yr iarll fel ei wasanaethwr. Bu y mater mewn dadl yn hir, a thaerid fod gan y brenin law ddirgel yn y cyfan. Gadawodd ei arglwyddiaeth waith llenyddol ar ei ol, "A Centuary of the names and scantlings of such inventions as at present I can call to mind to have tried and perfected, which, my former notes being lost, I have at the instance of a powerful friend, endeavoured now, in the year 1665, to set these down in such a way as may sufficiently instruct me to put any of them practice." A argraffwyd gyntaf yn 1663, yr hwn waith a ddarlunia nerth a chymhwysder ager-beiriant. Bu farw Ebrill 3, 1657, (Burk's General and Heraldic Dictionary.)
BEAUFORT, HENRY SOMERSET ydoedd bumed iarll Beaufort, a mab i Edward, y pedwerydd iarll o Ragland, yn sir Fynwy. Efe a alwyd i senedd gyntaf Iago I. Cymerodd ran neillduol yn mhlaid Siarl I., ac amddiffynodd ei gastell yn Ragland gyda byddin o 800 o wyr, o'r flwyddyn 1642 i 1646, heb godi treth ar y wlad. Ond bu orfod iddo ei roddi i fyny o'r diwedd i Syr Thomas Fairfax. Hwn oedd y castell diweddaf yn y deyrnas a barhaodd i herio y gwerinwyr. Wedi ei ddidoi, efe a ddinystriwyd, a thorwyd y coed yn y parc, y rhai a werthwyd gan bwyllgor yr atafaeliad, yr hyn a fernid yn golled i'r meddianwr, hyd i werth £100,000. Cyfodwyd yr iarll hwn i'r urddas o ardalydd Worcester, Tach. 2, 1642. Ei wraig oedd Ann, unig ferch i John, arglwydd Russell. Bu farw yn 1646. (Burk's Genealogical and Heraldic Dictionary.)
BEDO AB HYWEL BACH, bardd, yr hwn a flodeuodd yn y rhan flaenaf o'r eilfed ganrif ar bumtheg.
BEDO AEDDRAN, bardd o gryn enwogrwydd, yr hwn a flodeuodd rhwng 1480 a 1510.
Y mae llawer o'i ganiadau ar gael mewn ysgrifen. Ymddangosodd enwau a llinell gyntaf
amryw o honynt ar amlen Misolyn Cymreig a elwid y Greal, a gyhoeddwyd yn Llundain, yn
y flwyddyn 1806.
BEDO HAFESP, bardd, genedigol fel y bernir, o sir Drefaldwyn. Gadawodd rai caniadau, a ysgrifenodd yn yr unfed ganrif ar bumtheg.
BEDO PHILIP BACH, bardd, a flodeuodd oddeutu y flwyddyn 1480. Y mae amryw ddarnau o'i waith yn y rhan amlaf o'r casgliadau ysgrifenedig. Ymddangosodd enwau a llinell gyntaf naw o honynt yn y Greal.
BEDWAS, sant, yr hwn fel y tybir, a roddodd ei enw i eglwys Bedwas, yn sir Fynwy;
er mai Baroc a ystyrir fel y sant tadogaethol.
Yn ol y proffeswr Rees, yr oedd efe yn fab i
Helig ab Glanawg.
BEDWINI, a nodir yn y Trioedd, (Myv.Arch. ii. 68,) fel arch esgob Celliwig, yn Nghornwal, yr hyn, yn nghyd a Chaerlleon-ar-Wysg, a Chaer Rhianedd, yn y gogledd, a ffurfient dair archesgobaeth Prydain yn amser Arthur. Cofnodir dywediad iddo yntau hefyd yn Englynion y Clywed:—
"A glywaisti a gant Bedwini,
Oedd esgob doniawg diffri?
Rhagrithia dy air cyn noi dodi."
BEDWYR, un o ryfelwyr gwrolaf Arthur, ydoedd fab Bedrawg, yn ol y Trioedd, neu Bedrawd, fel y mae yn cael ei ysgrifenu yn Mabinogi Geraint ab Erbin, neu Pedrod, yn ol y Brut. Yr oedd yn dal y swydd o bentrulliad yn llys y brenin hwnw. Yr oedd yn un o'r ddau farchog a ddewisodd Arthur i fyned gydag ef i fynydd St. Michael, yn Normandy, i ddial marwolaeth Helen, nith i Hywel ab Emyr Llydaw, yr hon a gafodd ei chario ymaith a'i lladd gan gawr o faintioli anferth; a phan oedd Arthur wedi gorchfygu Ffrainc, derbyniodd Bedwyr oddiwrtho ef iarllaeth Normandy. Efe mewn canlyniad a lywyddai fyddin yn y frwydr enwog lle y gorchfygodd Arthur y Rhufeiniaid, dan Lucius, yu nyffryn y Seine, ac yno y lladdwyd ef trwy gael ei drywanu a gwaywffon, gan Baochus, brenin Media, yr hwn yn fuan wedi hyny a gymerwyd yn garcharor, ac a offrymwyd ar gorff Bedwyr. Claddwyd ef yn Bayeux, dinas a adeiladodd efe ei hun, fel prif ddinas iarllyddiaeth Normandy. Dyma'r hanes a roddir i ni gan y Brut Cymreig. Nodir lle ei feddrod hefyd yn Englynion y Beddau, y rhai a dybir yn wrthwyneb i'r hanes a roddir yn y Brut:—
"Bedd mab Osfran yn Nghamlan,
Wedi llawer cyflafan,
Bedd Bedwyr yn ngallt Tryfan."
BELI, mab Benlli Gawr, rhyfelwr nodedig yn Ngogledd Cymru tua diwedd y bumed ganrif. Gwneir cyfeiriad at ei feddrod yn Englynion y Beddau, y rhai a dybir eu bod yn Llanarmon yn Ial, sir Dinbych:—
Pieu y bedd yn y maes mawr,
Balch ei law ar ei lafnawr,
Bedd Beli fab Benlli Gawr."
BELI, brenin Prydain, oedd fab hynaf
Dyfnwal Moelmud, ar farwolaeth yr hwn y
cymerodd ymrysonfa greulon le rhyngddo ef
a'i frawd Bran, yr hyn a dawelwyd ar ol llawer
o derfysg, trwy gynghorion doeth y pendefigion; a chytunwyd ar i'r deyrnas gael ei rhanu
rhwng y brodyr; Beli i gael Deau Prydain, a