Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/43

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ar bumtheg oed; ac efe a neillduwyd i gyflawn
waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa
Aberafan, yn mis Awst, 1854. Yr oedd yn
hawdd canfod ar ei wedd y pryd hyny ei fod ef
yn nesau yn gyflym i ben ei yrfa, a bod ei
ddaearol dy o'r babell hon yn cael ei ddatod;
ac ar y 14eg o'r Rhagfyr dylynol efe a hunodd
yn yr Iesu. Yr oedd y brawd ieuanc hwn yn
wr o dymer addfwyn, ostyngedig, a diymhon-
gar iawn; arafaidd yn ei holl ysgogiadau, eto
ya dra phenderfynol; ac unwaith yr ymaflai
mewn unrhyw orchwyl, byddai yn dra anhawdd
cael ganddo ei roddi i fyny hyd oni ddeuai
trwyddo; i'r hyn, yn nghyd a galluoedd
meddwl cryfion, y gellir priodoli y llwyddiant a
ddylynodd ei lafur am ddysgeidiaeth; yn yr
hyn y rhagorai ar y rhan amlaf o'i gyfoedion,
mewn cyfartaledd i'r manteision a gafodd. Bu
dros rai blynyddoedd yn efrydydd yn Nhrefeca,
dan arolygiaeth y Parch. D. Charles, G.C; ac
efe a gyfrifid gan ei athraw parchus a'i gyd-
fyfyrwyr, yn un o'r ysgoleigion cyflawnaf yn
y lle ar y pryd; yn wir, gellir ei olygu ar ryw
ystyr yn ferthyr i'w awydd am ddysg a
gwybodaeth, er pan yn blentyn. Heblaw
hyny, efe a ragorai hefyd fel dyn da, cyfaill
didwyll, Cristion dysglaer, a gweinidog cy-
mwys y Testament Newydd. Fe all dyn fod
yn ysgolaig coethedig, ac yn feddianol ar
dalentau ysblenydd, ac eto yn ddyn gwael, di-
egwyddor; ond yr oedd y gwr ieuanc anwyl
hwn yn ddyn de mewn gwirionedd, ac yn
gyfaill gwerthfawr, yn ystyr helaethaf y gair.
Yr oedd yn un y gallesid meddwl ar y dechreu
nad oedd o duedd gyfeillgar, o herwydd nid yn
fuan y ceid ef allan i ymddiddan ar unrhyw
bwnc, yn enwedig yn mhlith dyeithriaid, yr
hyn, efallai, a barai i'r rhai nad adwaenent ef
yn dda, farnu ei fod o dymer sarug, pan mewn
gwirionedd, nad oedd dim yn mhellach oddi-
wrtho na hyny. Cerid ef fwyaf gan y rhai a'i
hadwaenent ef yn oreu; ac yr oedd yn an-
mhosibl i'r sawl a gawsant y fraint o gym-
deithasu ag ef beidio ei garu; canys yr oedd
cywirdeb ei egwyddorion yn ddarllenadwy yn
ei holl ymddygiadau, a santeiddrwydd ei
fuchedd yn peri i'w holl gymydogion ei barchu
yn fawr. Efe a ymsefydlasai fel bugail ar yr
achos crefyddol cysylltiedig â'r Trefnyddion
Calfinaidd yn ardal Penyclawdd; a meddai
gymhwysder arbenig i'r lle. Efe a berchid yn
fawr gan bobl ei ofal; ac yr oedd ei enaid
yntau yn ymhyfrydu yn ei lafur yn eu mysg.
Ond, er galar i laweroedd, "efe a fu farw."
Cafodd ei anrhydeddu à galwad oddiwrth ei
Arglwydd i orphwys oddiwrth ei lafur pan yn
31 mlwydd oed; wedi bod yn pregethu ddeu-
ddeng mlynedd. O Angeu diarbed !-wrth ei
dori ef i lawr, tydi a ddwys archollaist galonau
canoedd o gyfeillion yr Iesu. O Fedd anni-
wall!-wrth ei dderbyn ef, tydi a lyncaist i
fyny un o'r gweinidogion ieuainc mwyaf go-
beithiol yn Neheudir Cymru.
BOWEN, DANIEL, ydoedd fab i William
a Mary Bowen, Rhydargaeau, a brawd i'r
diweddar Barch. Charles Bowen, o Beny-
clawdd. Ganwyd ef yn Rhydargacau, Rhagfyr
27ain, 1829; a chafodd y fraint o gael ei
34
BOW
1
ddwyn i fyny yn eglwys Dduw a manteision
addysg grefyddol o'i febyd; a phan oedd efe
tua phedair blwydd ar ddeg oed, efe a dder-
byniwyd i gyflawn aelodaeth yn yr eglwys.
Bu am bedair blynedd yn athrofa Trefeca, lle
yr enillodd iddo ei hunan "radd dda" yn
marn ei athraw a'i gydfyfyrwyr. Efe a dde-
chreuodd bregethu pan yn ugain mlwydd oed;
ac wedi bod yn ymdrechgar yn y gwaith dros
wyth mlynedd, efe a gafodd fyned i mewn i
lawenydd ei Arglwydd, Rhag. 14, 1857, yn
28 mlwydd oed. Cafodd ef a'i frawd eu
bendithio â rhieni yn ofni yr Arglwydd yn
fawr; a'r rhai oeddynt yn dra gofalus am
borthi eu mynod gerllaw pebyll y bugeiliaid,
neu fagu a meithrin eu plant yn addysg
ac athrawiaeth yr Arglwydd; ac felly cafodd
eu meibion hyn y fraint o fod mewn rhyw
gysylltiad a chysegr y Goruchaf o'u mebyd;
ac fe'u dysgwyd er yn fechgyn i wybod yr
Ysgrythyr lan. Rhedasant ill dau eu gyrfa
o'r bru i'r bedd, heb dreulio un diwrnod
erioed yn gyhoeddus yn ngwasanaeth y diafol ;
ond yn eu hymarweddiad cyffredinol yr oedd-
ynt yn ddiargyhoedd; a chawsant y fraint o
ymgadw yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd.
Gyda golwg ar y weinidogaeth a dderbyniodd
Daniel Bowen gan yr Arglwydd Iesu, yr oedd
yn ddysglaer, yn rymus, yn darawiadol, ac yn
ddidderbyn wyneb neillduol. Yr oedd tuedd
yn ei holl bregethau i ddeffroi y gydwybod, i
oleuo y deall, i eangu y meddwl, i ddarostwng
balchder y galon gyndyn, ac yn enwedig i
lwyr ddymchwelyd gau noddfeydd hen wran-
dawyr yr efengyl. Efe a draddodai y gwir-
ionedd mor ddidderbyn wyneb nes y byddai
crefyddwyr cnawdol yn cwyno rhagddo, a
gwrandawyr deddfol yn gwgu arno; ond er y
cyfan, traddodi y gwirionedd yn onest a wnai
efe, a gadael rhwng Duw a'r canlyniadau. Yr
oedd cariad Crist yn ei gymell ef, deddf ei
Dduw yn ei galon, a chyfraith y gwirionedd
yn ei enau. Yr oedd ei eiriau fel symbylau,
ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan un o feistr-
iaid y gynulleidfa; ac efe a ergydiai yn ddi-
arbed yn ei bregethau at lygredigaethau yr
oes. Un hen weinidog parchus, o'r dosbarth
blaenaf yn y Deheudir, wedi bod yn ei wrando
yn pregethu unwaith, a ddywedodd wrtho ar
ddiwedd yr oedfa, "Dyna! Bowen bach;
pregethwch yn y style yna tra fyddoch byw;
dyna weinidogaeth gyfaddas i'r oes yr ydym
yn byw ynddi; y mae stamp y llywodraeth
arni. Yr oedd pregethau Daniel Bowen yn
sobr a difrifol dros ben bob amser; a'i syl-
wadau cyffredinol yn wreiddiol a tharawiadol
iawn. Hir y cofir am ei bregeth sylweddel ar
"Rith Duwioldeb," gan bawb a'i clywsant;
yr hon oedd yn un o'r rhai diweddaf a dra-
ddododd efe. Ber, mae yn wir, a fu ei oes
weinidogaethol; ond efe a fu yn dra diwyd a
ffyddlawn yn gweithio tra y parhaodd ei ddydd;
ac yn ei gystudd diweddaf, efe a gafodd
fwynhad helaeth o gysuron sylweddol crefydd;
ei enaid a ymorfoleddai yn iachawdwriaeth
hollddigonol Duw; a theimlai yr hyder mwyaf
diysgog wrth wynebu y byd tragywyddol.
BOWEN, JOHN, a anwyd yn nhref Llan-