egrasai lawer gwaith â'i weddiau ac â'i ddagrau.
"Onid byw yw enaid Bowen ?—er cau'r
Corff dan dywarchen,
Yn efrydfa'r Wynfa wen,-
Duwinydda'r dawn addien."
BOWEN, JOHN, a adnabyddid drwy y
rhan fwyaf o Gymru dan yr enw "John
Bowen, sir Fynwy," neu "John Bowen, o
Bontypool," Efe a fu farw ar yr 22ain o fis
Mai, 1855, pan wedi cyraedd pum mlwydd
phedwar ugain oed, ac wedi bod yn pregethu
yr efengyl am oddeutu triugain mlynedd ; ac
efe a gladdwyd yn mynwent Capel Twyn
Carno, Rumni, yn nghanol amlygiadau o barch
neillduol, ar y 25ain o'r un mis. Ar dde-
chreu ei weinidogaeth, cydnabyddid John
Bowen yn wr a ddoniasid & thalentau anghyff-
redinol, a daeth ei enw yn adnabyddus yn fuan
yn mysg Trefnyddion Calfinaidd Cymru yn
enwedig, fel pregethwr grymus a thra poblog-
aidd. Ond diflanodd ei danbeidrwydd gyda'i
fod yn dechreu llewyrchu, fel haul y boreu yn
cael ei orchuddio gan gwmwl; llithrodd ei
droed er mawr dristwch lawer, ac yn y can
lyniad i'r tro gofidus hwn efe a ymadawodd â'r
Trefnyddion Calfinaidd, ac a ymunodd â'r
Bedyddwyr, a bu yn pregethu mewn cysylltiad
A'r cyfundeb crefyddol hwnw dros ryw ysbaid;
ond aeth ei hiraeth am ei hen gyfeillion mor
gryf fel y dychwelodd yn ol atynt drachefn cyn
nemawr o amser. Ar ei ddychweliad, efe a
gydnabyddodd ei fai, ac amlygodd edifeirwch
dwys o'i herwydd; felly, efe a dderbyniwyd i
aelodaeth eglwysig; ac wedi ysbaid gweddus o
brawf efe a adferwyd i'r weinidogaeth, yn yr
hon y llafuriodd yn gyson mewn canlyniad
dros oddeutu pum mlynedd a deugain. Ni
theithiodd efe nemawr o'r sir wedi ei adferiad,
ond yr oedd ei weinidogaeth yn dra derbyniol
gan y cynulleidfaodd mwyaf adnabyddus ag ef.
Yr oedd llawer iawn o hen bobl Gogledd
Cymru, y rhai a'i gwrandawsent ar ddechreuad
ei weinidogaeth, yn awyddus iawn am gael ei
weled a'i wrando drachefn, ac o'r diwedd,
mewn ufudd-dod i'w cymelliadau taerion, efe
a ymwelodd & Gwynedd yn haf y flwyddyn
1847; ac er ei fod y pryd hyny yn oedranus, o
fewn tua thair blwydd i bedwar ugain oed, efe
a bregethodd yn dra grymus ar y maes i gyn-
ulleidfa fawr Cymdeithasfa Bangor; ac yn wir,
yr oedd rhyw eneiniad hyfryd ar ei weinidog-
aeth. Yr oedd efe yn ddyn o dymer siriol a
chyfeillgar; meddai synwyr cryf, a meddwl
bywiog a thra chynyrchiol; ac heblaw hyny,
yr oedd efe yn dra galluog i osod ei feddwl
allan mewn modd hynod o serchog ac enillgar;
anfynych iawn y gwelid neb a allai ragori arno
mewn dyweyd ystori; a chan ei fod wedi dal
sylw manol ar bersonau a phethau yn ei ieu-
enctyd, meddai at ei wasanaeth yn wastadol
ystorfa helaeth o hanesion a chofion yr amser-
oedd gynt, er difyru ac addysgu ei gyfeillion
ieuaine. Yr oedd hyn hefyd yn dra gwasan-
aethgar iddo yn fynych i roddi rhyw eglurhad
hynod danawiadol ar y materion a fyddai
ganddo dan sylw yn ei bregethau. Efe a
hoffai farddoniaeth yn fawr; ond nid yw yr ysgrifenydd yn gwybod am ddim o'i gyfan-
soddiadau a argraffwyd, oddieithr ychydig
emynau. Darllenai lawer, ac yr oedd yn
feddianol ar wybodaeth gyffredinol yn helaeth-
ach na'r cyffredin o'i gyfoeswyr yn y weinidog-
aeth; ond ei brif efrydaeth ydoedd duwinydd-
iaeth; ac mor hyddysg ydoedd yn nghyfan-
soddiadau duwinyddion Seisnig yr ail ganrif
ar bumtheg, fel yr oedd yn dduwinydd craffus
iawn ei hunan, yr hyn a welid yn amlwg
yn eglurder a sylweddolrwydd ei bregethau.
Deallai y gyfundraeth Galfinaidd yn dra
thrwyadi, ac amddiffynai hi yn fedrus yn ei
ymddiddanion a'i bregethau. Un o elfenau ei
boblogrwydd fel pregethwr oedd ei fod yn
feddianol ar gyflawnder o eiriau sathredig
cymwys i egluro ei bwnc yn wastadol, a'i fod
yn ddiarebol am ei bwyll a'i hunan-lywodr-
aeth wrth lefaru. Os y dygwyddai fod arno
eisiau dyfynu adnod i brofi neu egluro ei
bwnc, medrai ddifyru ei wrandawyr & sylwadau
tarawiadol, tra yn pwyllog wisgo ei wydrau ac
yn troi dalenau y Beibl nes dyfod o hyd i'r
rhan o'r ysgrythyr a chwenychai. Rhwymai
sylw ei wrandawyr ar fater ei bregeth yn y
dechreu, a chadwai y dosbarth mwyaf meddyl-
gar o'i gynulleidfa yn astud hyd ddiwedd y
bregeth; ond y diweddglo a fyddai yn rhagorol;
ni byddai yn terfynu un amser heb fod ganddo
ryw un sylw nodedig, at yr hwn y buasai yn
cyrchu ac yn parotoi meddyliau ei wrandawyr
trwy y bregeth. Ymddangosai fel dyn yn
sefyll wrth fon pren llwythog o ffrwythau teg
a pheraidd, y rhai a ddangosai i'r sawl a safent
gerllaw, gan draethu ar eu rhagoriaethau, a
thaflu ychydig iddynt i'w profi, er codi dy-
muniad cryf ynddynt am ychwaneg; yna,
ymaflai yn y pren ai holl nerth, a rhoddai
fath ysgydwad egniol iddo ag a barai i'r
ffrwythau aeddfed syrthio yn guwod i'r llawr;
neu, yr oedd trwy ei bregeth, megys un yn
lluchio briwsion blasus i'r bobl; ond wrth
derfynu, taflai y dorth yn gyfan iddynt, gyda
bloedd soniarus, neu fel y galwai rhai hi, "y
fonllef fawr;" a'r pryd hyn, byddai pawb
trwy y gynulleidfa a'u hwynebau ar y pre-
gethwr, ac yn orchuddiedig gan ddagrau, neu
wenau, yn ol natur y gwirionedd a gymwysid
atynt. Os y dygwyddai bod rhyw rai wedi
trymhau gan gwag yn yr oedfa ddau o'r gloch,
caent eu llwyr ddeffroi cyn y diwedd. Eto, er
cystal y pregethai yr hen frawd yn mlynydd-
oedd diweddaf ei oes, sicrhai yr hen frodyr a'i
cofient ar ddechreuad ei weinidogaeth, nad
oedd efe yn agos mor awdurdodol, na'r effeith-
iau a ddylynent ei weinidogaeth yn agos
cymaint & chyn ei gwymp. Ac y mae yn hyn
rybudd difrifol i bawb wylio ar eu camrau,
yn enwedig pregethwyr ieuaine, y rhai ydynt
yn agored i demtasiynau cryfion. Er na
chollodd John Bowen ei goron, hi a ogwyddodd
ac a lychwinwyd pan lithrodd ei droed yn nydd
y brofedigaeth, ac ni adferwyd mo honi i'w
gloywder cyntefig hyd ddydd ei farwolaeth.
Parhandd yr hen frawd i gyfansoddi pregethau
newyddion hyd y diwedd, a thystiai y rhai a'i
gwrandawent fynychaf fod cymaint o newydd-
deb meddylddrychau yn mhregethau y flwydd-
Q
Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/46
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto