yn ddiweddaf o'r oes ag a fuasai yn y pregethau
a draddodid ganddo ugain neu ddeugain
mlynedd yn gynt. Yr oedd efe wedi arfer
meddwl er yn ieuanc, a pharhaodd i feddwl
hyd ddiwedd ei ddyddiau. Am y flwyddyn
ddiweddaf o'i einioes, methai gan henaint a
llesgedd ddylyn ei gyhoeddiadau; ond yr oedd
cynulleidfaoedd y sir mor awyddus am ei
wrandaw, fel y penderfynwyd mewn Cyfarfod
Misol ei anog i fyned i ymweled & chynulleid-
faoedd y cyfundeb trwy Fynwy, yn ol ei allu,
a derbynid ef yn siriol yn mhob man heb un
cyhoeddiad. Yr oedd efe yn hynod o ddefn
yddiol yn y cynulliadau eglwysig; a theiml-
wyd colled fawr am dano yn Nghyfarfodydd
Misol y Sir, i'r rhai y cyrchai yn rheolaidd
nes pallu ei nerth.
BOWEN, PARCH. DAVID, Penyfai,
Llanelli, a anwyd yn y flwyddyn 1774, ond
nid oes dim o hanes ei rieni nac ychwaith ei
ddyddiau ieuengaidd wedi eu cofnodi. Cafodd
ei dderbyn yn aelod gwreiddiol o eglwys y
Bedyddwyr yn y Felinfoel, ger Llanelli." Cafodd
anogaeth gan yr eglwys i arfer ei ddawn drwy
ddechreu pregethu, a bu yn gynorthwywr
defnyddiol a chymeradwy am flynyddau. Yr
oedd yn wr deallus, ac yn hardd ei rodiad; ac
er bod yn fwy o gynorthwy i'w fugail parchus,
neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth,
ar y 26ain o Awst, 1806, i gydlafurio â'i dad
parchus yn yr efengyl, Mr. Daniel Davies,
pryd y pregethodd y Parchedigion J. Watkins
i'r gweinidog, T. Lewis i'r eglwys, a Joseph
Harris i'r gynulleidfa. Byddai y ddau wein-
idog yn pregethu bob Sabbath yn eu cylch yn
Llanelli, ac am dri o'r gloch bob Sabbath
byddent yn myned i Lwynhendy i bregethu.
Byddent hefyd yn myned ar eu cylch i Lanon
a manau ereill. Yn 1831, rhoddodd eglwys y
Felinfoel lythyr o ollyngdod i 161 o'i haelodau
i ymgorffoli yn nhref Llanelli, nid oblegyd un
anghydfod mewn barn na dysgyblaeth, ond er
mwyn lledu yr achos goreu. Aeth Mr. David
Bowen gyda y brodyr i'r dref, ac arosodd Mr.
Daniel Davies gyda'r hen gyfeillion yn y
Felinfoel. Dewiswyd Mr. Bowen yn wein-
idog sefydlog ar yr eglwys newydd. Cynydd-
odd y gwrandawyr a'r aelodau yn fawr dan ei
weinidogaeth. Aeth yr addoldy, er ei fod yn
gryn helaeth, yn rhy fach, am hyny, pender-
fynodd yr eglwys, yn 1838, adeiladu un
newydd. Ymdrechodd Mr. Bowen lawer i
gasglu at ddyled y ty cyntaf; a bu efe a'r
eglwys, yn nghyd a'r gymydogaeth, yn dra
ffyddlon yn casglu at draul y ty newydd.
Parhaodd yr eglwys dan ofal Mr. D. Bowen
o'r pryd ei corfforwyd hyd y flwyddyn 1839,
pan, mewn cydsyniad a'u gweinidog, y rhodd-
asant alwad wresog i Mr. J. Spencer ddyfod
yn gydweinidog á Mr. Bowen, yr hwn, y
pryd hyny oedd yn tynu yn mlaen mewn
gwth o oedran, wedi treulio blynyddau meith-
fon yn ddefnyddiol a pharchus gyda'r eglwys.
Ar ol bod yn llafurus iawn yn ei ddydd, ac
ymdrechu llawer tuag at godi a sefydlu achos
y Bedyddwyr yn nghymydogaeth Llanelli,
terfynodd ei yrfa mewn llawenydd ar y 14eg o
Orphenaf, 1853, yn 79 mlwydd oed.
BRADFORD, JOHN, ydoedd fardd cyw-
raint, yr hwn a dderbyniwyd yn ddysgybl
cadair farddonol sir Forganwg, yn y flwyddyn
1730, yr hwn nid oedd y pryd hwnw ond bach-
gen. Efe a arlywyddai yn yr unrhyw gadair
yn 1760; a bu farw yn 1780. Y mae yn
awdwr amryw ddarnau moesol o deilyngdod
mawr. Y mae rhai o'r cyfryw wedi eu har-
graffu yn yr Eurgrawn a gyhoeddid ar y pryd
yn Neheudir Cymru. (Cam. Biog.)
BRAINT HIR, oedd fab Nefyn ab Grenig,
a nai Cadwallon, brenin Gwynedd. Efe a hynod-
odd ei hun yn gyntaf yn ngwasanaeth ei ewythr
yn erbyn ymosodiad Edwin, brenin Northum-
berland; ond gan fod y llall yn fuddugoliaeth-
us, gorfodwyd Braint i ffoi gyda Chadwallon i'r
Iwerddon, ac oddiyno i Brittany. Yr oedd
Edwin wedi bod yn alluog i rwystro pob cais
a wnaethant i ddychwelyd i Frydain, trwy
gynorthwy Pelidys, dewin Ysbaenaidd, Braint
a anfonwyd drosodd i wneud ymchwiliad i'r
mater. ( ganlyniad efe a aeth, gan ffugio ei
hun yn grwydryn a ffon yn ei law, yn mhen
yr hon yr oedd llafn haiarn; ac felly y eyr-
haeddodd York, lle yr oedd Edwin ar y pryd
yn cynal ei lys. A phan ddaeth y dewin allan
i gyfranu ei elusenau, Braint a'i lladdodd ef
A'r llafn oedd yn ei ffon; ac yna aeth i Exeter,
lle y gwysiodd efe y Brytaniaid i uno ag ef. Y
modd hwn y bu efe yn alluog i adferu y wlad
oddiar y Sacsoniaid, ac adferu y llywodraeth
i Cadwallon, yr hwn a laddodd Edwin yn
mrwydr Hatfield, yn y flwyddyn O.C. 633.
Rhoddir hanes mwy amgylchiadol a dychy-
mygol yn y Brut Cymreig, (Myo. Arch. ii.
373.) Braint Hir, tiriogaeth yr hwn oedd yn
hwndrwd Isdulas, yn sir Dinbych, oedd ben-
aeth un o bumtheg llwyth Cymru, o'r hwn
y mae ychydig deuluoedd yn siroedd Dinbych
a Fflint yn parhaus olrhain eu tarddiad.
BRAN, mab Dyfnwal Moelmud.
Ar y
cyntaf efe a gyd-deyrnasai a'i frawd Beli, fel
cyd freninoedd Prydain, yn ol y rhaniadau y
cytunwyd arnynt. Rhan Bran oedd yr holl
wlad y tu gogleddol i'r Humber. Ar ol trigo
yn llonydd am bum mlynedd, yr oedd yn
awyddus i ychwanegu ei lywodraeth, a cheis-
iodd gadarnhau ei hun trwy gyngrair tramor;
ond ar y pryd cymerodd Beli feddiant o'i
deyrnas. Pan ar led efe a briododd ferch bren-
in y Llychlyn, trwy yr hyn y cafodd gymorth
i oresgyn Prydain. Ar ol glanio cymerodd
brwydr chwerw le yn nghoedwig Calatyr, yn
sir York, lle y syrthiodd y rhesau fel yd yn y
cynhauaf o dan law y medelwr. Terfynodd
y frwydr yn ngorchfygiad Bran, a lladdwyd
15,000 o wyr y Llychlyn. Efe ei hun trwy
lawer o anhawsdra a gyrhaeddodd un o'i long-
au, a diangodd i Gal. Ar ol arosfa o beth
amser yn llys un o dywysogion Gal, merch yr
hwn oedd wedi briodi, Bran drachefn a
lwyddodd i gael byddin gref i'w adferu i'w
deyrnas. Ond wedi iddynt lanio, ac ar fin
ymladd, rhuthrodd ei fam rhwng y rhesau, a'i
dagrau a'i deisyfiadau a lwyddodd i'w cymodi.
Yna y ddwy fyddin a daflasant eu harfau i
lawr, ac a ganmolasant y cymod. Y flwyddyn
ganlynol, y ddau frawd a benderfynasant ores-
Q
Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/47
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto