oedd yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd
fyddai yn teithio y dyddiau hyny. Pan fyddai
ei gyhoeddiad yn Mon, rhyfedd mor lluosog
fyddai y dorf a'i gwrandawai. Os ymofynir
am yr amser pwysicaf yn mywyd y dyn grasol,
a'r gweinidog defnyddiol hwn, ceir ef yn ei
lafur gweinidogaethol yn Aberystwyth, a'i
deithiau trwy Gymru, yn neillduol trwy y
Gogledd, a'i symudiad disymwth i Gastell-
newydd yn Emlyn; ac yn terfynu yn ei farw-
olaeth ddirybudd. Tra bu yn Aberystwyth
ar ol symudiad y brawd Thomas Evans trwy
angau, a'i urddiad yn gydweinidog a'r brawd
J. James, canfyddwn ef yn tynu at ganol ddydd
ei ddysgleirdeb. Llawer cyfleusdra a gawsom
yn ystod yr amser hwnw i fod yn llygad dyst
o'i sel, ei lafur, ei gariad, a'i serchogrwydd
crefyddol, fel pe buasai ei enaid a'i gorff yn
teithio yn ngherbydau Aminadab. Yr oedd yn
dra chyfarwydd yn yr iaith Saesneg, yr hyn a'i
gwnaeth o fendith i amryw o'r Saeson a ym-
welent âg Aberystwyth yn yr haf, i ymdrochi
yn y mor er mwyn eu iechyd. Bu yn fuddion
i ddeffroi rhai o'r cyfryw i ystyriaeth o achos
eu heneidiau, yr hyn a'u cymhellodd i broffesu
crefydd. Tro hynod a thra annysgwyladwy
yn mywyd Breese oedd ei symudiad o Aber-
ystwyth i Gastellnewydd yn Emlyn. Bydded
y bai a'r achos o hyny lle byddo, dangosodd
yr Arglwydd yn ngwyneb Cymru nad oedd
Breese wedi tristau yr Ysbryd, ac nad oedd y
bai o'i du ef, o herwydd yr arddeliad a'r nerth-
oedd tra hynod a ddylynodd ei weinidogaeth
yn Nghastellnewydd a'r Drefach. Cafodd,
mae'n debyg, ugeiniau eu deffroi yn achos eu
heneidiau yno, nes ysgwyd y cymydogaethau
trwyddynt megys daeargryn; a'i weinidogaeth
yntau fel mellt yn saethu, tarnau yn rhuo,
dyfroedd yn swnio, udgyrn yn lleisio, a the-
lynau yn peroriaethu. Ond er ei holl ddef.
nyddioldeb, yr oedd yr amser byr a benodwyd
iddo fod yn ddefnyddiol dros ei Arglwydd, yn
tynu at ei derfyn yn gyflym, ac yn ddiarwybod
i bawb. Dydd Sabbath, Medi 27, 1812, pre-
gethodd yn Nghastellnewydd am 10, yn y
Drefach am 3, ac mewn amaethdy a elwir
Bronorwen, am 6 yn yr hwyr. Bore dydd
Llun, yr oedd yn mwynhau ei iechyd arferol.
Wedi iddo gymeryd ei foreufwyd, darllenodd
a gweddiodd gyda'r teulu, ac yna cychwynodd
yn ol tua'r dref, ac aeth gwr y ty i'w hebrwng.
Wrth fyned ar hyd y ffordd, deallodd ei gyd-
ymaith fod ei eiriau yn bloesgi, ac yn fuan
gwelodd ef yn gogwyddo ar ei geffyl, fel pe
buasai agos a syrthio. Gofynodd iddo a oedd
yn anhwylus; ond ni chafodd un atebiad.
Derbyniodd ef oddiar ei geffyl, a gosododd ef
i orphwys wrth ochr y clawdd; ond ni allai
yngan gair. Deallodd ei gyfaill ei fod wedi
cael ei daro gan y parlys; a chan ei fod yn rhy
drwm iddo i'w symud oddiyno, brysiodd i dy
cymydog am gymorth i fyned ag ef mewn men
tua'r dref. Cafodd gymorth meddygol yn
uniongyrchol, ond bu y cyfan yn ofer. Gor-
phenodd ei yrfa ddaearol oddeutu pump o'r
gloch y prydnawn, Medi 28, 1812, yn ddeu-
gain mlwydd oed; a chladdwyd ei weddillion
marwol yn mynwent Cilfowyr, yn sir Benfro;
ac yr oedd galar mawr ar ei ol. Yr oedd Breese
fel crefyddwr yn onest a diragrith, fel nad oedd
lle i ameu gwirionedd ei grefydd. Yr oedd yn
boethlyd a byrbwyll ei dymherau; ond deffroai
yn fuan o'r llewyg poeth, a byddai yn barod i
faddeu pob sarhad, a chladdu pob cweryl, yr
hyn oedd yn ei wneud yn llawer mwy hawdd-
gar. Fel cyfaill, yr oedd yn ffyddlon; ni
werthai ei gyfeillion er aur nac er arian. Fel
pregethwr, yr oedd yn perthyn i'r rhes flaenaf.
Meddai ar gryn lawer o ragoriaethau. Yr oedd
gwedd ei wyneb yn landeg naturiol, ac yn cael
ei wedd gyfnewid yn dra siriol wrth bre-
gethu. Wrth draethu am bethau bygythiol,
byddai gwedd ei wyneb yn gerwino ac yn duo
fel y nos, a'i ddau lygad mawr yn melltenu;
ond pan fyddai yn cyhoeddi Crist a'i ras,
byddai ei lygaid fel dwy seren siriol ar nos-
waith o rew cadarn, yn gwingo yn oleu dan-
llyd, fel yn gwreichioni o gariad a thynerwch;
a'i holl wyneb wedi ei wisgo â sirioldeb, mwyn-
eidd-dra, a serchogrwydd, gydag amrywiaeth
tra hynod yn ei lais. Canodd y diweddar
Barchedigion C. Evans a D. Saunders farw-
nadau iddo :-
-
"Breese enwawg yn bresenol-ddiengodd—
Ei angau fu nerthol ;
Heddyw'n bod yn ddyn bydol,-
Ofer yw, af ar ei ol. -D. SAUNDERS.
BREWER, PARCH. JEHOIADA, a anwyd
yn Nghasnewydd-ar Wysg, sir Fynwy, oddett-
tu y flwyddyn 1752. Yr oedd o deulu cyfrifol,
canghenau o ba un sydd eto yn y gymydog-
aeth hono. Cafodd elfenau dysgeidiaeth dda;
a chafodd ei rwymo yn egwyddorwas mewn
masnach. Dygwyd ef dan ystyriaethau cref-
yddol dan weinidogaeth y Parch. Cradoc Glas-
cott, ficar Hatherleigh, yn sir Devon; yr hwn
a'i cymhellodd i fyned i goleg yr Arglwyddes
Huntington, yn Nhrefeca. Yr oedd ei fwriad
ef, fel y rhan amlaf o efrydwyr boreuaf y coleg
hwnw, i weinidogaethu yn yr Eglwys Sefydl-
edig; ond oblegyd ei gysylltiad â'r coleg
hwnw, gwrthododd yr esgob ei urddo. Yn
ganlynol ymsefydlodd fel gweinidog yn nghyf-
undeb ei Harglwyddiaeth, yn Rodborough a
Cheltenham. Yn 1796, efe a symudodd i
Sheffield, lle y bu am 13 o flynyddoedd. Yn
1809, derbyniodd wahoddiad i fod yn olynydd
y Parch. Dr. Williams, yn Carr's Lane, Bir-
mingham, pan symudodd y Doctor i lywio yr
athrofa Annibynol yn Rotherham. Bu yn
Birmingham hyd ddiwedd ei oes, yn nodedig
o lwyddianus. Cyhoeddwyd y darnau canlyn-
ol o'i eiddo:"A charge delivered at the
ordination of the Rev. Mr. Gardener, at Strad-
ford on-Avon, March 1, 1797." "An intro-
ductory Discourse at the ordination of the late
Rev. Jonathan Evans, at Poleshill, April 4,
1797." "A Sermon preached before the Mis-
sionary Society in London, May, 1793" "An
Oration delivered at the interment of the Rev.
Samuel Pearce, of Birmingham." Yr oedd hefyd
yn fardd da; ac y mae rhai Emynau o'i waith
wedi medru eu ffordd i amryw gasgliadau;
y mae dwy o honynt yn dra phoblogaidd, sef
yr "Hiding place," a'r "Star of Bethlehem,"
Q
Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/51
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto