Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/56

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

<poem> yr esgob cyntaf a breswyliai yn ei esgobaeth er ys mwy na chan mlynedd. Bu farw yn Bangor, a chladdwyd ef yn yr eglwys gadeir- iol. (Willis's Survey of Bangor.) BULKELEY, LANCELOT, D.D., oedd yr unfed ar ddeg, a'r mab ieuangaf i Syr Richard Bulkeley. Ganwyd ef yn Beaumaris, yn y flwyddyn 1568. Pan yn ddeunaw oed aeth i'r colegi Rydychain. Cafodd ei drwyddedu i fywiolaeth Llanddyfnan a Llandegfan-y ddwy yn Mon. Efe a aeth wedi hyny i'r Iwerddon, Ile y daeth yn archddiacon Dublin, a chymer- odd ei raddio yn D.D. yn y coleg hwnw Gwnaed ef yn archesgob Dublin, Awst 11, 1619. Yn fuan wedi hyny gwnaed ef yn aelod o'r Cyfrin-gyngor, gan Iago I., a chaniataodd iddo hefyd drwydded i ddal eglwys-fuddiadau heb gyflawni gwasanaeth. Bu farw Medi 8fed, 1650, yn 82 oed; a chladdwyd ef dan yr allor yn eglwys gadeiriol St. Patrick, Dublin. BURCHINSHAW, WILLIAM, bardd, yr hwn oedd enedigol o Lansanan, sir Dinbych. Bu fyw y rhan flaenaf o'r seithfed ganrif. Y mae llawer o'i ganiadau wedi eu dyogelu mewn ysgrifen. BYDDFAN, mab Bleiddfan. Sonir am dano gydag anrhydedd fel rhyfelwr diofn, gan Aneurin yn ei Gododin, (Myo. Arch. i. 5.) Yr oedd yn un o benaethiaid Prydain, y rhai a ymladdasant yn mwydr Cattraeth, tua'r flwyddyn 540.

C

CADAIR AIL SEITHEN SEIDI, a elwir hefyd Cadeiriaith Seidi, a Cadraith Seidi ab Porthor Gadw, a gofnodir yn y Trioedd fel un o "Dri unben llys Arthur," y rhai a ddewis- asant yn hytrach drigianu gydag Arthur, na llywodraethu yn eu tiriogaethau eu hunain. Y ddau ereill oeddynt Gronw mab Echel, a Fleudur. Yr oedd Cadair hefyd wedi uno â Gwalchmai a Gadrwy, i fyfyrio Trioedd, fel y tri boneddwr yn llys Arthur, y rhai oeddynt enwog am eu haeledd a'u hymddygiad moes- gar i ddyeithriaid; ac yr oeddynt yn cael eu caru mor fawr, fel nad allai neb omedd iddynt beth bynag a ddymunent. (Myv. Arch. ii. 4, 13, 19, 74, 77, 79.

CADWALADR, DAFYDD. Yr oedd y gwr hwn yn un o'r rhai cyntaf a gyfododd o'r ail oes o bregethwyr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yn sir Feirionydd. Cyfodasai tuag wyth neu naw o'i flaen ef mewn cysylltiad â'r cyfundeb crybwylledig yn y sir hono, ond yr oedd yntau wedi dechreu pregethu cyn sefydl- iad yr ysgol Sabbathol, a chyn bod yr un addoldy rheolaidd gan y Methodist- iaid yn yr holl sir, oddieithr yr un yn y Bala, a'r un yn Menrhyndeudraeth. Yr oedd Dafydd Cadwaladr yn bregethwr tra adnabyddus yn ei oes i'r cyfundeb oll, yn gymaint a darfod iddo deithio llawer trwy Ddeheudir a Gogledd Cymru, gan bre- gethu anchwiliadwy olud Crist, a pharhau i weinidogaethu felly am fwy na haner can mlynedd; a heblaw hyny, yr oedd hynod- rwydd tra mawr arno o ran ei ddull yn pre- gethu-awn ei lais ac ystumiau ei gorff, fel nad oedd berygl i'r sawl a'i gwrandawai un- waith golli ei adnabyddiaeth o hono mwyach; a pharodd y naill amgylchiad a'r llall fod Dafydd Cadwaladr yn un o'r pregethwyr mwyaf adnabyddus yn ei dymor o neb. Bu hefyd yn dra defnyddiol yn ei ddydd, yn enwedig yn nechreu ei oes weinidogaethol, i ddeffroi llawer iawn o'i gydwladwyr diofal yn nghylch pethau bywyd tragywyddol; gan hyny, fu fyddai yn resyn i'w goffadwriaeth golli i'r genedl y bu efe yn llafurio mor ymdrechgar ac mor llwyddianus i'w llesau am