Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ADDA FRAS. Bardd a flodeuodd yn ol yr awdurdodau cyffredin, megys Dr. Davies, Edward Llwyd, a Williams, tna 1240, ond y mae ben gofion am dano fel hyn, "Yn amser Gruffydd ab Seisyllt, Tywysog Cymru, yr oedd Brudiwr a elwid Adda Fras, yn trigo yn y lle a elwid Aber Llechog, yn is-Conwy; ac yno y peris ei gladdu mewn corlan defaid; i'r man a'r lle y gwnaeth efe ganeuau i ddangos y byddai yno Fonachlog. Yr oedd yr Adda Fras yma yn byw o gylch y flwyddyn 1060," Maenan, gerllaw Llanrwst, a elwid Monachlog Lechog, mal y tystiai rhyw fardd am ei hadfeiliad

"Aethost o fewn i wythawr
Fonachlog Lechog i lawr."

Yr oedd Adda Fras, fel Merddin ac eraill, yn brudio ganoedd o flynyddau wedi eu marwolaeth, mal y prawf y ffug-frudiau a briodolir iddynt. Beirdd y bumthegfed ganrif wrth bleidio Iarll Rismwnt, wedi hyny Harri VII, a lechent yn nghysgod enwau y cynfeirdd a'r gogynfeirdd, er mwyn diogelu eu hunain a rhoddi mwy o rym prophwydoliaethol i'w daroganau, mal y gwelir yn ngwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn, 1480.

"Wrth ddarllen y sen y sydd
waith Robin doeth rybydd;
Taliesin, y dewin doeth,

A Merddin burddysg mawrddoeth;
Ac Adda Fras gyhoedd frud,
Didwyll y maent yn d'wedyd."

"GWYLIEDYDD," 1824,

Safai Adda Fras yn uchel yn ngolwg y beirdd, megys ag y dywedai Tudur Aled yn marwnad D. ab Edmwnd,

"Adda Fras oedd ef ar wawd."

Noda'r Cambrian Register, vol. i. 445., fod tair o'i frudiau mewn llawysgrif yn nghasgliad ysgol Gymreig Llundain. Dichon wedi'r cwbl nad oes dim o'i wir waith ef ar gael; ond mai brudian fugiol sydd ar ei enw.

AEDD MAWR. Tywysog yn y drefedigaeth gyntaf o Frutaniaid a ddaeth drosodd o'r Cyfandir, a thad yr enwog Prydain.


AEDDAN FOEDDOG. Mab ydoedd i Caw ap Geraint, ac yr ydoedd yn ei flodeu yn nechreu'r chweched cant. Disgybl oedd i Dewi Sant, o anfarwol goffadwriaeth; ac o Fangor Dewi yr aeth of i'r Iwerddon. Yno gwnaed ef yn esgob Ferns, a thyma'r achlysur a barodd i awdurdodau eglwysig Menwy hawlio'r esgobaeth hono fel un a fu o dan nodded eu harchesgobaeth. Y mae Aeddan yn cael ei enwi yn dra gwahanol gan amryw ysgrifenwyr. Gelwir ef yn Nghofianau yr Iwerddon yn "Moedhog a Madog" a chan Giraldus, "Maidocus." Ond geilw John o Teignmouth of mewn un lle yn "Aidanus," ac mewn man arall yu "Aidus;" ond yn Nghofion Eglwys Ty Ddewi gelwir of yn "Moedok," yr hyn a argoela gryn swm o anian Wyddelig. Y mae Giraldus ddoniol yn adrodd y chwedl a ganlyn am dano:— Dywed i Aeddun fyned unwaith a haid o wenyn drosodd i'r Iwerddon, ac mai hon oedd yr haid gyntaf a welwyd yn yr Ynys Werdd, ac na welwyd fyth ar ol y digwyddiad ddim un wenynen yn agos at Henfenyw. Y mae yn Mhenfro goffhäon am dano oblegyd efo ydyw Sant gwarchodol Llanhuadain, nen Lanhawden, yn y wlad hono. Dywedir hefyd fod eglwysydd Nolton a West Haroldstone wedi eu cyflwyno iddo o dan yr enw Madog. Cedwid ei wylabsant Ionawr 31.


AEL-GYFARCH. Un o feibion Helyg ab Glanawg, yr hwn y tores y mor dros ei etifeddiaeth oedd hwn. Crybwyllir hefyd fol Helyg a'i feibion ar ol yr anffawd hon wedi troi at bethau crefydd o lwyrfryd