Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/14

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Crybwylla of ddarfod i Alban, tra yr ydoedd yn bagan, neu o'r hyn
lleiaf, cyn iddo wneud proffes gyhoedd o Gristionogaeth, gadw neu yn
bytrach guddio, ei gyfaill Amphibalus yn ei dy, ac i'r llywodraethwr
Rhufeinig glywed ryw fodd ei fod ef yn celu Cristion yn ei dy, ac iddo
anfon milwyr yno i ddal y cyfryw. Alban pan welodd hyn a wisgodd
am dano ddillad ei gyfaill, a chymerwyd ef o flaen yr Ynad. Dig-
wyddodd, pan ddygpwyd Alban yno fod hwnw yn offrymu i'w
dduwiau, a chan na fynai ef gydweithredu yn y drefn, ond cyhoeddi ei
hun yn Gristion, gorchymynwyd ar iddo gael ei ferthyru yn ebrwydd.
Dywedir hefyd i'w eunder gwrolfrydig ddylanwadu yn arbenig ar yr
edrychwyr, a pheri i lawer o honynt gofleidio ffyld Crist Iesu y
Gwaredwr. Torwyd ei ben ar y degfod dydd u Orphenaf, 0. C. 303.
Bu ei goffadwriaeth yn fendigedig am ganrifoedd, a thelid parch mawr
iddo am ei ymlyniad didwyll. Adeiladwyd eglwys ar y llecyn y dien-
yddiwyd ef yn lled fuan ar ol ei ferthyrdod, ac mewn amserould
diweddarach addurnwyd hi fel yr ydoedd yn un o'r adeiladau pryd-
ferthaf a thlysaf yn Lloegr.
ALBANACTUS, oedd un o dri mab Brutus, odliwrth yr hwn y
dywedir gan rai ysgrifenwyr y deilliodd yr enw Prydain ar yr Ynys
hon. Dywed y traddodiad fod Brutus yn frenin dros yr holl Ynys, ac
iddo gael o'i wraig Inogen dri mab, Locrin, Camber, ac Albanactus.
I'r hynaf efe a roddodd y rhan ganol a'r oreu, a alwyd oddiwrtho yn
Lloegria, neu Loegr, yn ol fel y geilw y Cymry hyd heddyw y wlad a
elwir gan y Saeson, England. Cafodd yr ail fab Cambri, Gymru
presenol; a'r ieuengaf, Albanactus, a gafodd yn rhan iddo yr holl
wlad i'r gogledd o Humber.
ALED, a elwir hefyd Elfeth, ac ambull dro yn Eiluned. Gwel
EILUNED.
ALED (TUDUR). Theodore Aled, Bencerdd, bardd Cadeiring
Eisteddfod Caerwys, yn y fl. 1525. Efe oedd prif fardd addefedig ei
oes yn Ngwynedd a Phowys ar ol marwolaeth ei ewythr a'i athraw,
Dafydd ab Edmwnd. Proswyliai ar fin afon Aled, yn Garth Geri
Chwibryn, yn Llansanan, a chymerodd ei enw barddonol oddiwrth yr
afon hono. Blodeuai o 1480 i 1525. Yr oedd efe, fel pawb o feirdd
yr oes hono, yn babydd; ac yn mhellach na hyny yr oedd efe yn
fynach o urdd Sant Ffransis. Pan wisgwyd ef yn yr urdd hwnw,
canodd yr englyn canlynol:-
"Brawd i Sant Ffransis, na bo-brych-f' wyneb
Pan fyner ei edrych;
Yn ei grefydd yn gryfwych,
Yn ei wisg wyf yn was gwych."
Mae Cywydd Gwenfrewi yn amlygiad cyflawn o'i goelion Pabaidd, yn
ogystal ag o'i ddawn farddonol. Mae ein darllenwyr yn gyfarwydd &
chwedl Gwenfrewi, sef i ryw dywysog dori ei phen a'i gleddyf am na
chydsyniai a'i drachwant halogedig, ac i Feuno sant godi'r pen, a'i
osod yn ol yn ei le, ac adfern bywyd Gwenfrewi. Yn y man y codwyd
y pon y tarddodd ffynon Treffynon.
o'r Cywydd :---
Gwel BEUNO. Dyma engreifftiau
"Carindog lawog o lid
Hyd ei theml daeth i'w hymlid;
Lladdold wen lle 'dd oedil unawr,
Llyn tawdd a'l llyncawdd i'r llawr;
14
Gwae'r ynfyd er gwirionfun,
O'l lladd hi collodd of hun:
Trwy'i mwnwgi taro meinwen,
Treiglo'r arf trwy goler wen."