Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/21

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ANE, neu Aneu, un o feibion Caw, arglwydd Cwm Cawlyd, talnetli
yn Ngogledd Lloegr, yr hwn, o herwydd cael ei flino gan ymosodiadau
y Pictisid a'r Scotiaid, a ymfudodd gyda'i deulu i Gymru, ac a gafodd
diroedd yn Môn gan Maelgwn Gwynedd. Y mae Ane yn cael ei gyfrif
yn mhlith y seintiau Cymreig, ac y mae eglwys Coed Ane, yn y wlad
hono, yn cael ei galw yn ol ei enw. Yr oedd yn ei fri yn y chweched
ganrif.
ANEURIN GWAWDRYDD, yr enwocaf o'r cynfeirdd, oedd fab
Caw arglwydd Cwm Cawlyd, yn y Gogledd. Oesai yn gynar yn y
chwechied ganrif. Yn yr oes hono yr oedd gan y Cymry fan deyrnas-
oedd ar dueddau yr Alban, y rhai a elwid "Teyrnedd y Gogledd."
Yno yr oedd Deifr a Bryneich, Rhegod, Argoed Llwyfain, Derwenydd,
Manau Gododin, y Cwm Cawlyd, &c. Anhawdd yw adnabod yr hen
derfynau yn bresenol, ac nid ydyw ein haneswyr wedi talu y sylw a
ddylasent i'r hen diriogaethau hyny. Hefyd, mae yn deilwng o sylw
mai brodorion o'r partiau hyny oedd amryw o'n cynfeirdd, yn enwedig
Aneurin Gwawdrydd, Llywarch Hen, &c. Gelwir Caw weithiau yn
Caw o Brydyn, Caw ap Geraint, arglwydd Cwm Cawlyd neu Cawllwg,
ac yr oedd ei drigfa lyn rhywle ya Strathclwyd. Dygwyd ei diriog-
aeth oddiarno gan y Gwyddyl Ffichti, a ffodd yntau i Gymru. Cafodd
nawdd gan Faelgwyn Gwynedd, ac ymsefydlodd yn y Twr Celyn yn
Mon. Mae llawer o'i blant yn mhlith y seintiau Cymreig. Yr oedd
dynion o bwys mewn gwybodau hynafol, megys Iolo Morganwg a Dr.
Owen Pughe, yn barnu mai yr un oedd Aneurin a Gildas sant, ond
mai Aneurin oedd ei enw milwraidd a barddonol yn more ei oes, ac
iddo droi yn fynach, ac arferu yr enw Gildas fel gwr eglwysig, cyn ei
farw. Dygir amryw o resymau dros y dyb hon. Caniateir ar bob llaw
mai meibion Caw oedd y ddau; ond y mae rhyw bethau yn awgrymu
eu bod yn nes at eu gilydd na dau frawd; canys mae yr hen gofrestrau
o feibion Caw, os enwant un yn esgeuluso y llall. Nid yw Aneurin a
Gildas byth yn yr un gofrestr. Hefyd, mae'r ddau enw yn gyfystyr.
Mae Aur yn y ddau, "Gilda, Gildas y Coed Aur, Aur y Coed Aur, ac
Aneurin y Coed Aur," ydynt enwau cyfystyr. Gelwir Cenydd yn fab
Gildas ab Caw, a gelwir Ufelwyn yn fab Cenydd ab Aneurin y Coed
Aur. Heblaw hyny, mae bywgraffwyr monachaidd Gildas yn ei alw
yn fab Caw brenin o'r Gogledd. Ond y mae anianawd a chymeriad y
ddau ddyn yn eu harddangos yn fodau hollol wahanol i'w gilydd. Yr
oedd Aneurin yn llawn o wladgarwch cenedlaethol; ond Gildas o'r tu
arall yn beio ar y genedl, ac yn ei diraddio. Heblaw hyny, bu farw
Gildas yn Ynys Afallon, a chyflafanwyd Aneurin yn Llancarfan. Gwel
Hanes Cymru, gan Carahuanawc, tu dal. 366, 367, a'r Welsh Saints,
gan y Cadeirdraw Rees, tu dal. 225-227. Ond fel bardd y mae a
waelom yn benaf ag Aneurin; ac y mae ei enwogrwydd barddonol yn
gorphwys braidd yn llwyr ar y Gododin. Dyma'r gan benaf, yn ddiau,
ohen ganiadau y Cymry. Ei aylion yw brwydr drychinebus Cattraeth,
yn yr hon y collodd y Cymry deyrnedd y gogledd" am byth. Mae
awdwr Eminent Welshmen, yn gosod y frwydr hon tua'r flwyddyn 540.
Ond y mae Ab Ithel yn ei gyhoeddiad ef o'r Gododin yn gosod y
tebygolrwydd i'r frwydr hon ddigwydd tua'r flwyddyn 570, gan i un
o'r gwroniaid a syrthiodd yn Nghattraoth ladd Ida yn y flwyddyn 560.
Mae ystyr y gair Gododin yn dywyll, ac anhawdd ei benderfyn.
Dywedir i Cunedda Wledig ddyfod ar y cyntaf o'r parth Gogleddol,