Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/29

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ARTHANAD, mab Gwrthmwl Wledig, yr hwn a gofnodir yn y
Trioedd yn cael ei ddwyn gyda'i frawd Achlen ar farch hynod i ddial
marwolaeth ei dad.
ARTHEN, mab Sibayllt ab Clydawg, oedd frenin neu arglwydd
Ceredigion. Bu farw yn y flwyddyn 804.
ARTHEN ydedd bedwerydd mab Brychan Brycheiniog, a dywedir
yn Llawysgrif Thomas Truman fod unwaith Eglwys wedi cael ei
chyflwyno iddo yn Ngwaenllwg, Mynwy, ac i'r unrhyw gael ei dinystrio
gan y Saeson Paganaidd. Dywed yr un cofnodydd yn mhellach i
Arthen gael ei ferthyru gan yr unrhyw giwaid yn Ngheredigiou, ac
mai yn Rhiwartben gerllaw Aberystwyth y cymerth byuy le. Eraill a
soniant iddo gael ei gladdu yn Ynys Manaw, cnd toid y Cadeirdraw
Rees awgrym cyfeiriadol at Ynya Fon, ac y mae yno hyd y dydd hwn
le a elwir Trefarthen, ar fin Afon Menai. Eraill a haerant mai yn
Merthyr Cyflefyr y merthyrwyd ef : a bod y lle hwnw yn Ngheredig-
ion.
Mae lle o'r enw Cefnarthen yn agos i Lanymddyfri.
ARTHFAEL HEN ydoedd fab i Rhys, arglwydd Morganwg. Efe
a briododd Ceinwen, ferch i Arthen, arglwydd Ceredigion; a phan,
oblegyd ei henaint, y daeth llywodraethu y Dywysogaeth yn flinderus
iddo, efe s'i trosglwyddodd i'w frawd Hywel. Bu fyw flynyddau wedi
hyn, a bu farw ytı fiwyddya 895, yn 120 oed. Yr oedd ei frawd
Hywel wedi marw y flwyddyn o'r blaen, yn yr oedran hynach o 124.
ARTHUR. Y mae banes y gwron rhyfeddol hwn yn yaranu yn
naturiol yn ddwy ran; un yn cynwys Arthur yr banesyddion, a'r llail
Arthur y rhaantwyr: ond gorchwyl digon afrwydd yw ceisio dadrys
y ffaith oddiwrth y ffug, a phenderfynu pa le y mae yr banes yn diweddu
a'r chwedl yu dechrou, gan mor gywrain y maent wedi eu oyfrodeddu
A'a gilydd. Ychydig, mewn cymhariaeth, yw y ffeithiau sy genym
yn nghylch y gwir Arthur ; ac nid rhyfedd hyn, canya ychydig yn
deueu o gofnodau perthynol i'r oes yr oedd ef yn byw ynddi sydd wedi
diane rhag traflwne anniwall amser a dinystr gelynol dwylaw, a
chyrhaedd yn ddiogel hyd ein hamser ni; ac nid oes lle i ammbeu na
chollwyd llawer o'r hanes gwirioneddol yn ystod yr amser yr oedd holl
wledydd Cred wedi pendroni gan yr adroddiadau yu nghylch ei
orchestion ffugiol.
Yn ol yr hauesion y gellir ymddibynu oreu ar eu cywirdeb, Arthur
ydoedd fab i Uthr Bendragon; ac yr oedd Uthr yn fab i Gystenyn
Fendigaid, ac yn frawd i Eurys Wledig, yr hwn a oliannwyd ganddo
megys brenin y Prydeiniaid o gylch 0.0.500. Nid yw yr holl'achau,
fel y gallesid yn hawdd dysgwyl, yn cytuno mewn perthynas i fonedd
Arthur, Mewn un ysgrillyfr, rhoddir ei achres yn y wedd ganlynol,
ac ymddengys cymaint o debygolrwydd o'i thu ag un o'r lleill, os nid
may:"Arthur ab Uthr, ab Cystenin Fendigaid, ab Cynor (neu
Cynfor), ab Tudwal, ab Morfawr, ab cynan [Meiriadog], ab Eudaf, ah
Caradog, Bran, ab Llyr Liediaith." Dywed y Dr. W. O. Pughe mai
mab ydoedd Arthur i Meirig ab Tewdrig, nu o dywysogion Deheubarth;
ond y mas y Bratiau, yn gystal a'r hanesion mwy coeliadwy, yn erbyn
yr ach hon; a dengys y Cadeirdraw Rees, yn ei waith godigog y Welsh
Saints, a hyny i gryn foddlonrwydd, mai cansyniad yw hyn, wedi
taridu, mae yn dra thebyg, o gamgymeryd Arthur ab Uthr yn lle
Arthur ab Athrwys, ab Ceneu, ab Coel, yr hwn oedd un o benaethiaid
y Brython Gogleddol, ac yn byw o gylch yr un amser.
Gwyddis yn
dds ddigon fod yr holl ramantau yn galw Arthur yn fab i Uthr Ben-