Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trymgwsg trwy gydol yr amser hwn. Ond yn ddisymwth, o ddentu dechreu y 12fed ganrif, y mae deffroad cyffredinol yn cymeryd lle, a chloion cwsg yn cael eu dryllio yn chwilfryw; rhoir y meddwl ar waith, dattodir ilyifetheiriau yr Awen, a dysgir iddi ymddyrchafu ar adenydd rhyddion darfelydd. Yn uniongyrchol ar ol y dadebriad a'r adfywiad dan sylw, yr ydym yn canfod golygfa nad oes mo'i chyffelyb ar holl ddalenau hanesyddiaeth. Y mae Arthur a Marchogion y Ford Gron yn cyfodi ar unwaith i sylw, yn eu llawn faint ac yn eu holl urddas a'u hardderchogrwydd. Hwynt—hwy yw testyn cerdd, a chwedl, a rhamant, o'r naill gwr o Ewrop i'r llall; ac nid yw Asia yn rhy bell i glywed son am eu gwrhydri a'u gorchestion. Yr ydym yn eu canfod ar unwaith yn wroniaid y byd; ac y mae y sylw a'r edmygedd a delir iddynt braidd yn ddifesur. I'r fath raddau o enwogrwydd yr oedd y Brenin Arthur wedi cyrhaedd yn y canoloesoedd, fel y mae Alan de Insulis, ysgrifenydd o'r cyfandir yn y 12fed ganrif, yn gofyn am dano yn y wedd ganlynol: "Canys i ba le ni ddygwyd ac ni chyhoeddwyd enw Arthur y Prydeiniaid, gan glodforedd hedegog, cyn belled ag y cyrhaedd ymherodraeth Gristionogol? Pwy, meddaf, nid yw yn siarad am Arthur, gan ei fod, braidd, yn fwy adnabyddus i genedloedd Asia nag i'r Prydeiniaid, megys y traethir i ni gan ein pererinion a ddychwelant o'r parthau dwyreiniol? Y Dwyreinwyr a siaradant am dano, ac felly y gwna y Gorllewinwyr, er cael eu gwahanu oddiwrth eu gilydd gan holl led y ddaiar. Sieryd yr Aipht am dano, a'r Bosphorus nid yw ddystaw; Rhufain, arglwyddes y dinasoedd, a gân ei orchestion; ac nid yw rhyfeloedd Arthur guddiedig oddi wrth Cartheg, ei chydgeisyddym gynt. Moliannir ei weithredoedd ef gan Antiochia, Armenia, a Phalestina."

Yn y rhamantau hyn yr ydym yn ei weled, yng ngeiriau Carnhuanawc, nid megys blaenor ar ryw lwyth bychan o bobl, yn cyfaneddu mewn cwr pellenig o'r byd, ond fel penadur goruchel, ac ymherawdr mewn enw ac awdurdod, yn anghymharol mewn pob peth a ystyrid yn anrhydedd yn yr oes hono, yn tramwy y gwledydd gyda rhwysg goresgynydd anwrthwynebol; ei lys yn ymgynullfa i ddewrion y byd; a'i Farchogion ef yn ddewraf o honynt; ac yntau ei hun yn rhagori arnynt oll mewn gwroldeb a phob milwraidd gampau. Gwelwn ef hefyd yn cael ei amgylchu gan fodau tra anghyffredin eu hanianawd,— dewiniaid, ellyllon, a'r Tylwyth Teg. Ceir ei enw yng nglŷn â chestyll, mynyddoedd, a meini, yn y fath fodd ag na ddygwyddodd i ran un dyniolyn arall a welwyd ar glawr daiar. Ac yn rhwysg amser, i'r cyfryw faintioli y tyfodd ef yn nwylaw y rhamantwyr hyn, fel y coffeir am dano megys cawr anferthol, yn taflu creigiau, a meini hirion, o benau y bryniau ym mhell i waelodion y dyffrynoedd isod.

Y mae y rhamantau yn gystal a'r hanesion, megys yr awgrymwyd eisioes, yn gwneuthur Arthur yn fab i Uthr Bendragon ac Eigr; ac nid anghofiant ddywedyd i'w enedigaeth gael ei dwyn o amgylch trwy offerynoliaeth hud a lledrith Myrddin. Pan yn bymtheg oed esgynodd i'r orsedd ar farwolaeth ei dad, a choronwyd ef yn Nghaerlleon ar Wy Wysg gan Ddyfrig, archesgob yr esgobaeth hono. Yn union ar ol ei goroni ymgyrchodd yn erbyn y Seison dan Colgrin, a gorthrechodd hwynt yng nghyd â'r Ysgotiaid a'r Brithwyr, ar lanau yr afon Dulas, yng Ngogledd Lloegr. Gorchfygodd hwynt drachefn yn Nghaer Lwydgoed (Lincoln) lle y syrthiodd chwe' mil o'r gelynion; a'r canlyniad a fu, iddynt orfod gadael Lloegr, a rhoi i fyny ei hol! feddiant. o honi, ac