llenyddol Cymru, a thra fu ef byw ym Mhrydain ni pheidiodd ag erfyn ar ei gyfeillion am lyfrau a gramadegau Cymraeg.
Yr oedd wedi ei drwytho hefyd yn y clasuron Groeg a Lladin. Gwelir ôl ei ddiwylliant clasurol yn ei ddewis o bynciau.
O wŷr ei oes, ymddengys mai Dennis a ddylanwadodd fwyaf arno. Un o osodiadau mawr Dennis oedd mai "yr un ydoedd amcan gwir grefydd a barddoniaeth." Yr oedd Goronwy yn fardd ac yn ofFeiriad, a diau y teimlai nad oedd neb cymhwysach nag ef i ddehongli i'w gydwladwyr yng Nghymru syniadau a thueddiadau'r oes. Dywed Mr. Saunders Lewis y rhedai meddwl y genhedlaeth honno at Ddydd y Farn; cyfansoddodd Goronwy, yntau, gywydd "Y Farn Fawr."
Efallai mai'r "Maen Gwerthfawr" ydyw cywydd gorau Goronwy Owen. Yr ymchwil am ddedwyddyd—ymchwil anochel dynol-ryw a gwir bwnc pob Ilenyddiaeth—ydyw ei thestun, a phrin y ceir ei hefelydd o ran yr angerdd, y gwibio o le i le, a bywyd y darlun sydd ynddi.
Y mae "Y Gwahodd" ac "Unig Ferch y Bardd" yn nodedig iawn am y mwynder a'r tynerwch sydd ynddynt, ac am berffeithrwydd eu ffurf; a'r cywydd "Hiraeth" am ei angerdd.
Bu rhaid i Oronwy ymadael â Llundain yn 1757; hwyliodd am America, i gymryd swydd mewn coleg yn Williamsburgh, Virginia. Canodd yn iach am byth i wlad ei eni, ac ymddengys iddo—