Tudalen:Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth (1931).djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon

Y Maen Gwerthfawr.

CHWILIO y bûm, uwch elw byd,
Wedi chwilio, dychwelyd;
Chwilio am em berdrem bur,
Maen iasbis, mwy annisbur;
Hynodol em wen ydoedd
Glaerbryd, a DEDWYDDYD oedd.
Mae, er Naf (harddaf yw hi),
Y gemydd a'i dwg imi?
Troswn, o chawn y trysor,
Ro a main daear a môr;
Ffulliwn hyd ddau begwn byd,
O'r rhwyddaf i'w chyrhaeddyd;
Chwiliwn, o chawn y dawn da,
Hyd rwndir daear India,
Dwyrain a phob gwlad araul,
Cyfled ag y rhed yr haul;
Hyd gyhydlwybr yr wybren,
Lle'r â wawl holl awyr wen;
Awn yn noeth i'r cylch poethlosg,
Hynt y llym ddeheuwynt llosg,
I rynbwynt duoer enbyd
Gogledd, anghyfannedd fyd.
Cyrchwn, ni ruswn, oer ôd,
Rhyn, oerfel, rhew anorfod,
A gwlad yr ia gwastadawl,
Crisianglawdd na thawdd, na thawl
Od awn i'r daith drymfaith draw,
Ofered im lafuriaw!
Gwledydd ormod a rodiais,
Trwy bryder ac ofer gais;
Lleindost i mi'r bell ymdaith,
A phellaf, gwacaf y gwaith!