Tudalen:Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth (1931).djvu/16

Gwirwyd y dudalen hon

Chwilio yman amdani,
Chwilio hwnt, heb ei chael hi.
Nid oes dŵr na dwys diredd,
Na goror ym môr a'i medd.
Da gŵyr Iesu, deigr eisoes
Dros fy ngran drwstan a droes,
Pond tlawd y ddihirffawd hon,
Chwilio gem, a chael gwmon!
 
Anturiais ryw hynt arall
O newydd, yn gelfydd gall;
Cynnull (a gwael y fael fau)
Traul afraid, twr o lyfrau,
A defnyddiau dwfn addysg
Soffyddion dyfnion eu dysg;
Diau i'r rhain, o daer hawl,
Addaw maen oedd ddymunawl—
Maen a'i fudd uwchlaw rhuddaur,
Maen oedd a wnai blwm yn aur;
Rhoent obaith ar weniaith wag
O byst aur, a'u bost orwag.
Llai eu rhodd, yn lle rhuddaur,
Bost oedd, ac ni chawn byst aur.
Aur yn blwm trathrwm y try,
Y mae sôn mai haws hynny;
Ffuant yw eu hoff faen teg,
Ffôl eiriau a ffiloreg.

Deulyfr a ddaeth i'm dwylaw
Llawn ddoeth, a dau well ni ddaw:
Sywlyfr y Brenin Selef,
A Llyfr pur Benadur Nef,
Deufab y brenin Dafydd,
Dau fugail, neb ail ni bydd.