Diddan a fyddo'n dyddiau
Yn unol, ddiddidol ddau;
A'r dydd, Duw ro amser da,
Y derfydd ein cydyrfa,
Crist yn nef a'n cartrefo,
Wyn fyd! a phoed hynny fo."
Northolt 1755
Y Gofuned
O CHAWN o'r nef y peth a grefwn,'
Dyma archiad im a erchwn,
Un rodd orwag ni ryddiriwn—o ged;
Uniawn ofuned, hyn a fynnwn.
Synhwyrfryd doeth, a chorff anfoethus,
Cael, o iawn iechyd, calon iachus;
A pheidio yno â ffwdanus—fyd
Direol, bawlyd, rhy helbulus.
Dychwel i'r wlad lle bu fy nhadau,
Bwrw enwog oes heb ry nac eisiau,
Ym Môn araul, a man orau—yw hon,
Llawen ei dynion, a llawn doniau.
Rhent gymhedrol, plwyf da 'i reolau,
Tŷ is goleufryn, twysg o lyfrau;
A gwartheg res, a buchesau—i'w trin
I'r hoyw wraig Elin rywiog olau.
Gardd i minnau, gorau ddymuniad,
A gwasgawdwydd o wiw gysgodiad;
Tra bwy'n darllain cain aceniad—beirddion,
Hil Derwyddon, hylaw adroddiad.