A chryn, a dychryn y diawl;
Cydfydd y Fall a'i gallawr,
Câr lechu'n y fagddu fawr.
Dy fyn a enfyn Dofydd,
Bloedd erchyll rhingyll a'i rhydd:
Dowch, y pydron ddynionach,
Ynghyd, feirw y byd, fawr a bach
Dowch i'r farn a roir arnoch,
A dedwydd beunydd y boch."
Cyfyd fal ŷd o fol âr,
Gnwd tew eginhad daear;
A'r môr a yrr o'r meirwon
Fil myrdd uwch dyfnffyrdd y don.
Try allan ddynion tri-llu —
Y sydd, y fydd, ac a fu,
Heb goll yn ddidwn hollol,
Heb un onaddun yn ôl.
Y dorf ar gyrch, dirfawr gad!
A'n union gar bron Ynad.
Mab Mair ar gadair a gaid,
Iawn Naf gwyn o nef gannaid,
A'i osgordd, welygordd lân,
Deuddeg ebystyl diddan.
Cyflym y cyrchir coflyfr,
A daw i'w ddwy law ddau lyfr—
Llyfr bywyd, gwynfyd y gwaith,
Llyfr angau, llefair ingwaith.
Egorir a lleir llith
O'r ddeulyfr, amryw ddwylith,
Un llith o fendith i fad,
I'r diles air deoliad.
Tudalen:Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth (1931).djvu/27
Gwirwyd y dudalen hon