Tudalen:Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth (1931).djvu/29

Gwirwyd y dudalen hon

Lle mae nefol orfoledd,
Na ddirnad ond mad a'i medd:
Man hyfryd yw mewn hoywfraint,
Ac amlder y sêr o saint,
Llu dien yn llawenu,
Hefelydd ni fydd, ni fu:
O'm traserch, darfûm trosoch
Ddwyn clwyf fel lle bwyf y boch,
Mewn ffawd didor, a gorhoen,
Mewn byd heb na phyd na phoen."


Gan y diafl ydd â'r aflan,
A dieifl a'u teifl yn y tân.

Try'r Ynad draw i'r wiwnef,
A'i gad gain â gydag ef,
I ganu mawl didawl da,
(Oes hoenus), a Hosanna.
Boed im gyfran o'r gân gu,
A melysed mawl Iesu!
Crist fyg a fo'r Meddyg mau,
Amen! — a nef i minnau.

Uppington (1752?)

Hiraeth

DARLLENAIS awdl dra llawn serch,
Wych enwog fardd, o'ch annerch,
A didawl eich mawl im oedd—
Didawl a gormod ydoedd.

Ond gnawd mawl bythol lle bo,
Rhyddaf i'r gŵr a'i haeddo;
Odidog mi nid ydwyf,
Rhyw sâl un, rhy isel wyf.