Tudalen:Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth (1931).djvu/37

Gwirwyd y dudalen hon

Oes dim nac yn, na than, y nef
Nad Ef sydd yn ei beri?
Ac Ef a rydd (gwnaed dyn ei ran)
Y cyfan er daioni.

Pa raid ychwaneg? gwnelwyf hyn;
Gosteged gwŷn a balchder:
Arnat Ti, Dduw, fy Ngheidwad glwys,
Bid fy holl bwys a'm hyder.