Gwirwyd y dudalen hon
GEIRFA
A.
- ABAD : pennaeth mynachaidd ac eglwysig.
- ADWEDD : adferiad.
- ANHWYLio : diffrwytho.
- AMORTH : aflwydd, anffawd, gwarth.
- ANNISBUR : pur, diledryw.
- ANNYN : truan.
- ARABAWDL : awdl neu gân ffraeth, hoenus.
- ARDYMYR : tymheredd, hin.
- ARiIAL : bywyd, egni.
- ARMERTH : tasg, meuter.
- ARWYRAIN : cân fawl.
- ATEBOL : cyfrifol.
- AWRDDWL (AFRDDWL) : trist, trymllyd, gofidus.
B.
- BÂR : dicter, llid.
- BERWIAS : berw—ias.
- BRAENDROCH : dwfn ei phydredd.
- BRAWD : barn, llys.
- BYGWL : bygythiad.
C.
- CAIL : corlan.
- CALLAWR : pair.
- CÂR : anwylyd, perthynas.
- CÊD : rhodd.
- CEDRWYDD : ced—rwydd, hael ei anrhegion.
- CENAW : ysbrigyn, disgynnydd.
- CERTH : rhyfeddol.
- CETHERN : " y gethern uffernawl"—teulu'r diafliaid.
- COLEDD : cymryd gofal;. meithrin.
- CRAFFRYM : aruthr ei gamp.
- CROG : Y Grog — Y Groes.
- CWFL : penwisg mynach.
- CYDFYDD : bydd ynghyd.
- CYHYDEDDU : mydryddu, canu barddoniaeth.
- CYTGAIS : cyd-gais, cyd-weithio.
- CYTGWYS : cyd + gwys rhodio'r un llwybr.
- CYWREINWYN : cywrain a gwyn.
- CYWYDDOLIAETH : prydyddiaeth.
- D.
- DEAU : iawn, rhwydd, ffyniannus.
- DEOL : gwahanu, alltudio.
- DIADLAM : anhyffordd, anhramwyadwy, na ellir ei chroesi'n ôl.
- DIDOLYDD : gwahanydd; didoli—gwahanu.
- DIDWN : di dor.
- DIDDAWR : a'm diddawr — a'm diddora.
- DIDDIDOL : di-wahân.
- DIEN : di-hen, bob amser yn ifanc.
- DIGWL : di fai.
- DIGRAIN : crwydrad.
- DIHIRFFAWD : ffawd ddrwg.
- DILATHR : cymylog, trymllyd.
- DiILYSIANT : diamheuol, sicr.
- DILYTH : diflin, dyfal.
- DILLYN : hardd, hyfryd.