Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/10

Gwirwyd y dudalen hon

"Thâl hwna ddim byd," meddai Dafydd, "aros di dipyn bach, ac mi wnaf fi un gwell na hwna iti". Ac yn mhen ychydig dywedodd wrtho am anfon yr englyn canlynol i Huw:- 

"Am gyllell, hen gyfaill rwy'n gofyn, — finiog
Ofynaf gan Huwcyn, 
A eillio megys ellyn 
Yn sych deg ar swch dyn."

Yr oedd efe y pryd hwnw o bymtheg i ddeunaw oed, yr hyn a ddengys fod rhywbeth a fyno â phrydyddu pan yn ieuanc, a'i fod yn adnabod y gynghanedd yn lled foreu.

Ymunodd Chymdeithas y Cymreigyddion ar ei chychwyniad, neu yn bur fuan ar ol hyny. Yr oedd yn Nolgellau yr adeg hono luaws o feirdd a llenorion galluog ac egniol, megys Gwilym Cawrdaf, Llywelyn Idris, Meurig Ebrill, Ieuan Awst, Ioan Gwernen, Lewis Meirion, ac eraill, Byddai cyfarfodydd y Gymdeithas yn ddyddorol dros ben. Mynych y gwelid enw Dewi Wnion yn nglŷn â hanes y cyfarfodydd hyny.

Glywsom ef yn adrodd yn ddoniol am yr amser y cafodd ei urddo yn fardd with fraint a defod. Yn ol arferiad llawer o'r frawdoliaeth, gwisgai yntau ddiwrnod ei urddiad glos pen glin gyda byclau prydferth ar benau ei liniau. Y deuddegfed o Fai yn wastad fyddai y diwrnod urddo, hyny, debyg genym, o herwydd mai ar y diwrnod hwnw, yn y flwyddyn 1821, y cychwynasid y Gymdeithas yn Nolgellau. Cawrdaf yn unig, drwy ei fod yn Fardd Cadeiriol, a feddau'r hawl gyfreithlawn i urddo beirdd.