Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/12

Gwirwyd y dudalen hon

Ddinbych. Yr oedd yr holl ŷd a ddyrnid ganddo ef yn ystod y dydd yn cael ei gario ymaith bob nos, ac yr oedd pob ymdrech o'u heiddo i ddarganfod y lleidr wedi bod yn hollol ofer. Yr oedd ei feistr mewn penbleth blin, yn methu gwybod pa beth i'w wneyd, ac wedi ei anfon ef i ymgynghori ar Consuriwr er cael allan pwy ydoedd y lleidr, neu i roddi attaliad ar ei weithrediadau. Wrth ei holi, cafodd Dewi allan yn fuan pa fodd yr oedd pethau yn sefyll. Wedi rhoi awgrym i wr y tŷ, trodd at y dyeithrddyn, a dywedodd, "Ni raid i chwi ddim myned mor belled a Llanbryrimair, er cael eich neges, os nad oes gorfod arnoch: byddaf yn gwneyd tipyn yn y ffordd hono fy hun ambell waith; ac yr wyf yn sicr, eisoes, y gallaf roddi i chwi y wybodaeth ydych yn geisio"; a chan droi at ŵr y tŷ, ychwanegai - "Ymae y llyfrau yn ddiogel wrth law, onid ydynt." "Ydynt, siwr" ebe hwnw; "dyma yr agoriad i chwi; ni byddaf byth yn eu gadael heb glo yn eich absenoldeb, rhag i ryw un anghyfarwydd gael gafael arnynt, a chodi ysprydion, a methu eu darostwng hwy drachefn;" "Beth," meddai y dyeithrddyn, "â ydych chwi y "ŵr cyfarwydd?" "O! ydyw siwr meddai cymdeithion Dewi, "yn un 'cyfarwydd iawn,' ac yn dra enwog yn y wlad ucha yna." "Wel, ni waeth i mi y naill ŵr cyfarwydd mwy na'r llall," ebe y dyn;  "mewn pa faint o amser y byddwch chwi yn barod?" "Mewn hanner awr, neu lai", ebe Dewi ; "ac mi a âf yn awr i roddi y llyfrau mewn trefn." Yn mhen ennyd, galwyd y dyn i'r parlwr. Yr oedd shutters y ffenestr wedi eu cau; dwy ganwyll fawr oleuedig ar y bwrdd; tri neu bedwar o lyfrau mawr