Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/13

Gwirwyd y dudalen hon

eu trefnu yn y fath fodd fel nas gallasai y dyn,'os ydoedd yn medru darllen, gael un awgrym beth oeddynt. "Wel," ebe Dewi," yr wyf yn gael allan fod eich ystori yn wir; y mae yr ŷd yn cael ei ladrata; ac y mae y lleidr yn un lled ystrywgar hefyd, ac wedi llwyddo i gelu ei hun yn fedrus iawn; ond mi a ddywedaf i chwi pa fath un ydyw" gan edrych i un o'r llyfrau, "y mae ganddo glos pen glin o gorduroy, a hosanau bach o'r un defnydd; cot lwyd lac, a llogellau mawr iawn o'r tu mewn iddi. Y mae ganddo wallt du bras, ac un cydyn yn troi ar ei dalcen; llygaid duon, ac un ychydig yn gam; trwyn hir; dannedd lled fawr, ac un yn taflu allan ychydig, ac" - Ond gyda hyny, dyna'r dyn yn ymaflyd yn y bwrdd a'i ddwy law, nes oedd hwnw a'r cyfan oedd arno yn crynu dros yr ystafell. Cododd Dewi ei ben, edrychodd yn myw llygad y dyn, yr hwn oedd mor wyned a'r galchen--"beth! ond chwi yw y lleidr!, meddai. Syrthiodd y dyn ar ei liniau, gan erfyn er mwyn pob peth da yn y nef a'r ddaear; am i Dewi gadw y peth yn ddirgel, a pheidio ei amlygu i neb, er mwyn ei amgylchiadau ef a'i deulu. Wedi hir ymbil, boddlonodd Dewi i hyny, ar yr ammod iddo fyned adref, a hysbysu ei feistr fod y gŵr cyfarwydd yn dyweyd y byddai i'r ŷd gael ei ddwyn yn ol gan y lleidr mor gyfrinachol ag y cymerwyd ef ymaith, ac fod y meistr i anfon hysbysrwydd i ŵr y dafarn pan y byddai yr ŷd wedi ei ddychwelyd; ac yna na chlywid dim mwy am yr helynt. Felly y bu. Aeth y dyn adref dipyn yn sobrach, ai logell ychydig yn wagach, gan lwyr benderfynu mai "gorau byw yn onest" o hyny allan.