Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/14

Gwirwyd y dudalen hon

Bu Dewi yn aros am, gryn amser y pryd hyn yn nghymydogaethau yr Amwythig, Llanfyllin, a Llanerfyl. Yn y lle olaf, daeth yn gydnabyddus â merch ieuanc o'r enw Rachel Evans; aeth yn ymgyfeillach rhyngddynt; ac yr oedd y garwriaeth, yn ol pob tebyg, ar droi allan yn briodas. Ond, fel y gwneir yn fynych, dyryswyd cynlluniau serch; syrthiodd y blodeuyn prydferth yn yr angau, a gadawyd y llanc cariadlawn i wylo am ei Rahel. Hyn a achlysurodd iddo gyfansoddi y pennillon serchwylofus a geir yn y llyfr hwn dan y penawd "Mynwent Erfyl, neu Hiraeth y Bardd ar Fedd ei gariad."

  Pan yn aros yn Sir Drefaldwyn, deuai adref yn awr ac eilwaith i ymweled â'i dad, ac i'w gynnorthwyo pan fyddai gan yr hen ŵr gryn lawer o waith ar ei law. Bychan o beth yn ei olwg y pryd hwnw oedd cerdded, â beichyn o arfau ar ei ysgwydd, o Faldwyn dros y Bylchoedd i Ddolgellau. Yr oedd yn ddyn ieuanc iach, bywiog, talgryf, glandeg yr olwg, ac yn meddu ar gorff llunaidd ac ystwyth. 

Adroddai wrthym ei fod yn myned un tro dros Fwlchyfedwen yn bur hwyr ar noswaith oleuleuad; ac fel y gwyr pawb fu rywbryd y ffordd hono, y mae hen loches fynyddig y Gwylliaid Cochion gynt yn lle brawchus iawn i deithiwr unig, yn enwedig yn y nos. Yn nghanol mynyddigrwydd anghysbell hwnw, daeth dyn i'w gyfarfod o faintioli lled fawr, ac ymddangosiad go annymunol, a gofynodd pa faint o'r gloch ydoedd. Edrychodd Dewi