Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon

Ar ei oriadur, ac atebodd y cwestiwn. Yna gorchymynoddy dyeithrddyn iddo roddi ei oriadur i fyny iddo ef. Dododd y dyn ieuanc gwrol ei becyn yn bwyllus ar lawr, a chyn pen ychydig o eiliadau yr oedd y ffon, a'i phen meinaf yn llaw ein harwr grymus, wedi gadael ei dylanwad syfrdanol ar benglog yr ysbeiliwr i'r fath raddau nes y syrthiodd yn hanner marw ar y llawr. Gan dybied y gallai fod yno un arall heb fod yn mhell, prysurodd y teithiwr gonest i'w ffordd, gan adael yr ymosodydd haerllug ar lawr i fwynhau y llonyddwch a dderbyniasai oddiwrth y ffon, ac i godi pan deimlai ei hunan yn gyfaddas. Yn lled fuan, clywai Dewi drwst traed rhywrai yn dyfod o'i ol yn frysiog, aeth yn y fan dros y gwrych, a phrysurodd dau ddyn heibio yn ymlaen ar hyd y ffordd, un o'r rhai, fel y tybiai ef, oedd yr hwn a loriwyd. Ond anturiodd eilwaith i'r ffordd, a cherddodd i'w daith ac ni welodd ddim oddiwrthynt mwyach.

Yn y flwyddyn 1831 aeth i aros i Lynlleifiad. Ymunodd yno drachefn â Chymdeithas y Cymreigyddion, yr hon â ymgyfarfyddai yn Heol-y-Dymhestl. Ymgydnabyddodd felly â llawer o feirdd a llenorion, megys Pedr Fardd, Tomas Gwynedd, Ioan Powys, ac eraill. Yn y dref hono y cyfansoddodd y pennillion adnabyddus ar "Anfoniad y Golomen". Yr oedd efe a'i gyfaill John Evans wedi myned am dro un boreu i Knowsley Park, gerllaw palasdy Iarll Derby. Yno y daethant ar draws nifer o blant ieuainc oeddynt wedi dyfod i Liverpool i'r ysgol. Yr oedd ganddynt golomen gyda hwy, ac wedi sicrhau nodyn yn ei chilfin i hysbysu eu rhieni. eu bod wedi cyrhaedd yno yn