gweithgar yn yr Ysgol Sabbathol. Cyfrifid dosbarth Dewi Wnion, am hiramser, yn un o brif ddosbarthiadau yr Ysgol. Yr oedd yn arferiad y pryd hwnw, ac y mae yn parhau hyd yn hyn, i gynnal Cyfarfod Genhadol ar ol y bregeth, yr ail nos Sabbath yn y mis, ac enwid dau neu ychwaneg o'r athrawon i areithio yn mhob cyfarfod. Yr ydym yn cofio yn dda fod Dewi yn areithio un nos Sabbath, yn yr adeg yr hwylioddy Cenhadwr cyntaf perthynol i Gyrmdeithas Genhadol y Methodistiaid i Fryniau Cassia, ac yn ystod ei araeth, adroddai ddarnau helaeth o Awdl enwog Dewi Wyn ar Elusengarwch — pob darn, yn wir, ag yr oedd rhyw gyfeiriad ynddo at y Bibl, y Genhadaeth, neu yr India. Rhwng parabliad clir Dewi, ei ynganiad perffaith o'r cyngharieddion, a chydymdeimlad gwresog y gwrandawyr, ni chlywsom y fath hwyl yn cydfyned ag adroddiad o'r hen awdl odidog, na chynt na chwedyn, ag a fu y noson neillduol hono.
Yn y flwyddyn 1838, ymbriododd a Sarah Jones, Llwynygrug, Dinas Mawddwy, yr hon oedd ar y pryd yn gwasanaethu yn y Llwyn, Dolgellau, gyda Thomas Hartley, Ysw. Dichon mai nid annyddorol i lawer fydd yr englynion canlynol a wnaed ar yr amgylchiad gan y diweddar Meurig ldris :—
MEWN hedd mae Gwynedd yn gwenu — heddyw
Yn hyddoeth a mwyngu,
A'r holl Feirddion ceinion cu
Mewn cynnydd yma'n canu.