Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/18

Gwirwyd y dudalen hon

O herwydd mai dydd dedwyddawl, — yw hwn,
Mae'n hynod ryfeddawl,
Bydd priodas urddasawl
Dewi Wnion hylon hawl.

Dewi ydyw bri ein bro, — Bardd enwog.
A'i bêr ddoniau'n seinio,
A'i awen lon fwynlon fo
O foroedd yn llifeirio.

Dewi a Sarah, dau siriawl — i fyw
Ac i fod yn unawl,
Dau'r un fryd mewn hyfryd hawl
Ydynt yn dra hynodawl.

Eu dyddiau fo 'n ddedwyddol, — a chynnydd
Gwych enwog beunyddiol,
I oesi yn urddasol,
Ddau wiwfad, a'u hâd o'u hol.

Ffyniant a llwydd hoff union — i'w dilyn
Hyd elawr yn ffyddlon,
A chael addas ras yr ION,
A doethwych hael fendithion.


Ar ol priodi aethant i fyw i dy yn ymyl y dref a elwid Llety Dewi, lle yr arosasant am dros ddeng-mlynedd-ar-hugain. Yn mhen oddeutu blwyddyn, ymsefydlodd yntau fel goruchwyliwr ar ystad y Llwyn a bu yn yr oruchwyliaeth hono hyd ddiwedd ei oes, a hyny gyda pharch a chymeradwyaeth neillduol yn ngolwg y naill a'r ol y llall o deulu anrhydeddus y Llwyn, ac yn enwedig y