Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/19

Gwirwyd y dudalen hon

foneddiges a'r boneddwr presenol, Miss Hartley, a Thomas Humphrey Williams, Ysw.

Bu Dewi yn aelod o'r Gymdeithas Gyfeiligar Gynnorthwyol a gynnelid yn yr Angel, bron o'i chychwyniad. Efe oedd "Bardd" y Gymdeithas; a bu hefyd am bedair blynedd ar bymtheg ol-yn-ol yn cael ei ethol yn Llywydd ynddi, hyd nes iddo fethu gan lesgedd i barhau; ac bu hefyd yn un o'i Hymddiriedolwyr hyd derfyn ei oes, yr hyn a ddengys fod gan ei gyd-aelodau gryn ymddiried ynddo.

Yn mis Mawrth y flwyddyn 1879, cafodd anwyd trwm, a bu yn sâl iawn am fisoedd ac yn ol pob ymddangosiad yn agos i angau. Ond er syndod i lawer gwellhaodd drachefn. Ar ei adferiad canodd un o'i gyfeillion, fu yn gweini arno yn ei glefyd, yr englynion â ganlyn:-

Diolch am weled Dewi; — eto'n iach
Tan ei hoff benwyni,
A'i osgedd mor wisgi — ar ol hirnos,
O ryw ddwys wylnos mewn prudd selni.

Ammheu y buom y bywiai — am hir dro,
Mor drist yr edrychai,
Ei bruddaf wyneb roddai — arwyddion
O boen y galon — buan y gwelwai.

Ar bwys ei och a'i hir besychiad — dwfn,
Athrist oedd ein casgliad;
Ofnem fod ei ymddatodiad — gerbron,
Ein dewraf Wnion ar derfyniad.