Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/23

Gwirwyd y dudalen hon

GWAITH DEWI WNION

————


CANEUON

————

ANFONIAD Y GOLOMEN I FEIRIONYDD

EHED y G'lomen, 'hed yn chwyrn,
Dy edyn cedyrn cais;
Dod wynt i'th fanblu unwaith mwy,
A gwrando'm clwy a'm clais;
Cei gen 'i nghyffes fynwes faith,
Nid yw ond taith i ti;
Os yn dy gilfin dygi hon
I Feirion troswyf fi.
 
Pan y delych ar dy daith,
I'r man bum ganwaith gynt;
Dôs cyn hyf i dŷ fy Nhad,
Cei groesaw rhad ar hynt;
Ond Ow! yr hon a'm cadwai 'n rhwydd,
Rhag cael un tramgwydd trwch;
Ei dwy-rudd sydd, er's llawer dydd,
Yn llonydd yn y llwch.
 
Wedi hyn ehed mewn hwyl,
At feddrod f' anwyl Fam,
Yr hon fu 'n dyner gynt i'm dal,
A'm cynnal rhag un cam;
Un ateb yno gwn ni's ca'i,
Y beddrod clai a'i cloes,
Mewn gwely pridd, un aelod rhydd,
Na nos na dydd, nid oes.