Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/29

Gwirwyd y dudalen hon

CAN AR WYL DEWI.

Atolwg, hil Brython, os tirion ddystewch,
Byr orchwyl anerchiad ar ganiad a gewch;
Hyfrydol eich gweled gan lloned eich llun,
Mewn agwedd gysurus, yn barchus bob un;
Boed pob cymedroldeb a rhwydd-deb i’n rhan,
Heb neb yn gwallgofi, na meddwi ’n un man,
Na byddo i’n cynnulliad ogwyddiad gair gwan;
Y’mlaen â’n Cymdeithas mewn urddas a nerth,
Cadarnach bob diwrnod i’w ganfod bo’i gwerth,
Boed fyth fel di-fethiant lwys borthiant lâs berth.

Gwyl Dewi, pan gadwom, tra byddom, trwy bwyll,
Cawn gofio’r hen Gymry, dda deulu, ’n ddidwyll
A llawer hen Gymro, ond cofio’r gwyr call,
Anturiant am ryddid eu bywyd heb ball;
Yn wrawl, yn eirwir, i’w bro-dir rhag brad,
A malais gwyr milain, bu rhai’n mewn parhad;
Yn lawddoeth ymladdant am lwyddiant y wlad;
Os carwn ein ceraint, ein braint hyn o bryd
Yw cynnal ein cenin heb ronyn o wrid,
Er cofio’r hen Frython fu’n boethion eu byd.

Oes eirian gysurus i’n Hynys am hir,
A dyddiau dedwyddwch caed heddwch trwy’r tir,
Er brathiad i’r Brython trwy greulon frad groes,
Daeth odfa, daeth adfer o lawer trom loes;
Mwyn heddfawr mae’n hawddfyd a rhyddid i’n rhan
Dim eisieu gormesu na gwasgu mo’r gwan
Ond oesi dewisol dymunol pob man;
Er rhyw anfoddlonrwydd o’r herwydd ryw hyd,
Tawelwch ddaw eilwaith er bariaeth y byd,
A goror deg eirian fo Prydain mewn pryd.