Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/33

Gwirwyd y dudalen hon

SHONCO SERFEL.

Yr oedd Dewi un tro wedi myned i Fowddwy i ymweled â rhai o’i berthynasau. Yr oedd ci bychan o’r enw uchod, oedd mewn ffafr fawr gan y teulu, wedi trengu, a chael ei gladdu y boreu hwnw; ac wrth weled y plant mewn galar mawr ar ei ol, canodd Dewi,—

Bu farw Shonco Serfel,
Ding dong bell, ding dong bell,
Fe’i rho’wd o yn y grafel,
Ding dong bell;
’ Ddaw Shonco byth ond hyny
I hela i Arran Fowddy
Mae Shonco wedi’i gladdu,
Ding dong bell, ding dong bell,
 Jack a Jini ’n nadu,
Ding dong bell.

RHYBUDD I GIGYDDION.

[Yr oedd yn Nolgellau, flynyddau yn ol, gymeriad pur adnabyddus o’r enw Wil Shon Wmffra, yr hwn a fyddai yn arfer cigydda weithiau. Un noson, yn bur feddw, aeth Wil a tharw i’r lladd-dŷ; ond yn hwyrach fyth, aeth cymydog arall a buwch yno, heb yn wybod iddo ef. Yn foreu iawn dranoeth, cyn iddi oleuo, aeth Wil i’r lladd-dŷ cyn gorphen sobri, ac yn ei ffwdan, y mae yn ymddangos iddo ladd y fuwch yn lle y tarw; oblegid, wrth ddechreu ei blingo, efe a waeddodd allan—“Hwchw mawr, dyma darw! Mae gan hwn bedair teth!” Aeth yr ystori i. glustiau Ieuan Awst a Llywelyn Idris, ac nid oedd heddwch i Dewi na chyfansoddai efe Gerdd ar yr amgylchiad. Wedi cryn berswadio, efe a gyfansoddodd y Gân ganlynol. Ond bu yn edifar ganddo ganwaith ufuddhau, oblegid