Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/34

Gwirwyd y dudalen hon

cafodd chwiorydd Wil allan mai efe oedd yr awdwr, a bu yn rhaid iddo am fisoedd lawer osgoi y ffordd rhag ofn eu tafodau, y rhai oeddynt yn llithrig anghyfiredin; ac nid yw yn ymddangos iddo “dreio ei law” yn y cyfeiriad hwnw byth wed’yn.]

Gwrandawed Cigyddion clodforus gwlad Feirion,
Fy meddwl sy ’n gyson am geisio
D’weyd hanes rhyw gigydd, ar ddechreu blwydd newydd,
Rhyw orchwyl ar gynddydd oedd ganddo;
Hwn, pan ddihunodd, yn gadarn gododd,
Ac yn foreu y cyferiodd
I dynu’n buraidd, dyna ’i berwyl,
Amcanu i gyrchu at y gorchwyl,
Sef lladd rhyw eidion gwryw,
Beryglus, dylys darw,
A hynod roddi hwnw
I farw yn y fan.

Rhyw ddyn ddywedai wrtho mai gwell fyddai ’i rwymo
Rhag ofn iddo neidio ’n ofnadwy,
A lladd rhai o’r dynion â chroeslid echryslon,
Un gerwin yw’r eidion rhuadwy;
Yr ateb ga'dd — “Gollynga’i waed
Heb fawr ymdroi i rwymo ’i draed;
Pray don't be a fool, let’s have my tool,
I’ll make him bleed like a running pool;
Taw ’r dwl a siarad gwirion
Am rwymo traed yr eidion,
Gollyngaf waed ei galon
Yn union trwy fy nerth.”

A chyda chyffro i hwylio ’n hwylus,
I godi ei gyllell gydag ewyllys,