Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/41

Gwirwyd y dudalen hon

Sion William, ddinam ddoniau, — a gludwyd
I gleidir yn ddiau;
Er iddo'n wir hir barhau
E drengodd ar dir angau.


Hwn oedd enwog
Un o ddoniau,
Gyda'r gorau
Gaed o'r gwerin;
Ei beroriaeth,
A'i bur eiriau,
Ddwyfawl leisiau
Oedd felyswin.


Dyn ydoedd a dawn odiaeth,
Perorydd a phrydydd ffraeth :
Ni bu i'r ddaear hawddgar hon
Ei lewach am alawon .


E gywir eiliodd ef wir garolau,
A phlethodd yn fedrus weddus gywyddau,
A gweuodd yn gymhwys hyawdlwys odlau,
Hoywaf was arain, a gwnai fesurau
O wir gu nodawl ar ei ganiadau;
Dawnus ydyw ei dônau — pereiddiawl,
Yn bur gynhwynawl wiwber ganonau.


Pa wedd bu diwedd y doeth,
Wr enwog, fel yr annoeth:
Angau yn hyf, â'i gleddyf glas,
Annelodd yr anwylwas ;
Mae mewn arch, dan dywarchen,
Yn gorphwys a'i bwys ar ben.


Yr hoff was, n'ol hir orphwyso — ddolef
Pan ddel i'w ddihuno;