Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/45

Gwirwyd y dudalen hon

 

————

ECHRYSLONRWYDD DINAS AR DAN.

————

Testyn Cymreigyddion Dolgellau, Medi, 1823.

————

Mawr iâs, gwel'd dinas ar daniaw — parod
Pery im' arswydaw;
Dychrynllyd, i'm bryd mae braw,
Treiddiodd fy meddwl trwyddawa

Mor rochus y bydd mawr wreichion, — pan fo
Yn tanio 'n bent'wynion ;
Nerth y goelcerth anferth hon
Ergydia hyd Gaergw'dion.

Tai mawrion eto ymwriant, — hyll yw
I'r llawr y dymchwelant ;
Muriau ogylch ymrwygant,
Yn garnedd ryfedd yr änt

Twrw hynod fel swn taranu, — a mellt,
Yn ymwylltiawg ffaglu ,
Du erchyll Hamau'n dyrchu;
Rhyfeddwn y dwthwn du.
 
Gwael lefain trist ac wylofus — uchel
Drwm ochain arswydus;
Gwŷr cryfion, dynion dawnus,
Llesg yn awr yn llosgi'n us,