Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/59

Gwirwyd y dudalen hon

————

BEDDARGRAFF


Y diweddar Mr. John Evans, Asiedydd (Joiner), Dolgellau, yr hwn a fu farw Rhagfyr 30, 1837, yn 32 mlwydd oed.

 
Dirwestwr oedd, mae'n'n dristwch — ei osod
Mewn isel dawelwch;
Er am dro falurio'i lwch,
E ddaw eilwaith o ddulwch.


————


"YR HEN DY DU."

Fel yr awgrymwyd eisioes, yr oedd Dewi yn Fethodist zelog iawn, ac yr oedd Mrs. Thomas, yr adeg y priodasant, yn Annibynwraig yr un mor zelog. Er mwyn dal y ddysgl yn wastad," y cytundeb y deuwyd iddo oedd eu bod i fyned gyda'u gilydd i gapel yr Annibynwyr a chapel y Methodistiaid bob yn ail Sul; ac fe barhaodd y cytundeb mewn grym am yspaid. Ond un Sabbbath, yr oedd y Parch. L. Edwards O'r Bala (Dr. Edwards yn awr) yn pregethu yn Salem, Capel y Methodistiaid, a'r hen gymeriad hynod, Richard Jones, Llwyngwril ("Dic TY Du," fel y gelwid ef fynychaf yn mysg ei gydnabod), yn pregethu yn Nghapel yr Annibynwyr. Yr oedd Dewi mewn penbleth enbyd, rhwng ei awydd i wrandaw Mr. Edwards, a'i awydd i osgoi cynnyg tori y cytundeb. Wrth fyned adref i Ddoluwcheogryd o'r Ysgol foreu y Sabboth, fe gyfansoddodd Dewi yr englyn canlynol, a mawr oedd y digrifwch a gafwyd gydag ef y prydnawn hwnw; ond y canlyniad ydoedd i Mrs. Thomas ei dynu o'i gyfyngder, a myned gydag ef i '"Salem." Y mae hyn o eglurhad yn ofynol, er gweled grym yr Englyn, ac mai nid o ddiystyrwch ar yr hen bregethwr dyddan y cyfansoddwyd ef; ac yn wir ni chwarddodd neb yn fwy nag ef