Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/6

Gwirwyd y dudalen hon

a fyddai "mynd" ar y bregeth. Eisteddai yn y dechrau yn dawel, a'i ddwy law ar ben ei ffon, a'i ben yn pwyso arnynt. Cyn hir, codai ei ben, a rhoddai bwysau ei ên ar ei ddwylaw. Yn mhen ychydig wedi hyny, codai ar ei draed, ei ffon o dan ei law, gan led-bwyso ar ochr yr eisteddle. Os byddai yr hwyl yn cynnyddu, safai ar ben y plocyn, ei gefn ar "ffrynt" y pulpud bach, a'i wyneb i fyny at y pregethwr, yn dystaw yfed llon'd ei enaid o ddyddanwch. Clywsom ef yn gweddio lawer gwaith, yn enwedig yn niwedd "seiat." Nid oedd ei ddawn mor wlithog a llawer o'i hen frodyr, ond yr oedd ei weddi bob amser, er yn fyr, yn sylweddol, a chryno iawn. Bu farw Hydref 22ain, 1844, yn 83 mlwydd oed.

Mewn nodiad yn y "Drysorfa" am Chwefror y flwyddyn ganlynol, ysgrifena y diweddar Mr. R.O. Rees, fel y canlyn — "peth mwyaf nodedig yn nodweddiad yr "hen ddysgybl hwn," yn yr hyn yr oedd yn esiampl brydferth i'w hoffi a'i hefelychu gan bob dysgybl proffesedig i Grist, oedd ei ddiwydrwydd a'i gysondeb yn ei ymarferiad â holl foddion cyhoeddus crefydd. Yr oedd yn byw yn nghylch milldir o Ddolgellau a bernir iddo, yn ystod y 53 mlynedd y bu yn aelod eglwysig, gerdded i'r dref, i foddion gras yn unig, fwy o yn agos i 3,000 o filldiroedd na phe buasai wedi amgylchu y ddaear! Ond er hyn oll, "gwas anfuddiol" oedd yn ei olwg ei hun. Pan oedd un o'i deulu yn son am ffyddlondeb anghyffredin gyda moddion gras i dawelu ei feddwl pryderus ychydig cyn ei ymadawiad meddai, "nid yw hyny ddim i mi erbyn hyn - rhaid cael